Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1-2 flynedd

Gwnewch gais
×

Crefft Peirianneg Lefel 3

Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Meistroli Sgiliau Peirianneg y mae Galw Mawr Amdanynt

Codwch lefel eich gwybodaeth a'ch sgiliau fel eich bod yn gallu ffynnu mewn swyddi gweithgynhyrchu a swyddi sy'n cynnig cymorth technegol. Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddisgyblaethau craidd fel melino, turnio, a gwneud a chynnal a chadw offer.

Y bwriad yw meithrin arbenigedd ymarferol: byddwch yn treulio'ch amser yn cyflawni tasgau ymarferol mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant tra hefyd yn dod i ddeall egwyddorion peirianneg mewn sesiynau dosbarth.

Bydd hyn yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir ac a berchir gan gyflogwyr ledled y byd. ⁠Ar ôl graddio byddwch yn barod i gymryd cam nesaf – i swydd lawn amser neu brentisiaeth werth ei chael.

Gofynion mynediad

Cyflwynir y rhaglen City and Guilds 2850 drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Wedi cwblhau Lefel 2 Crefft Peirianneg yn llwyddiannus neu
  • Wedi ennill cymhwyster galwedigaethol lefel 2 cyfatebol
  • Wedi ennill profiad gwaith perthnasol a fydd yn cael ei ystyried ar sail unigol

Ynghyd â

  • Isafswm o Lefel 1 mewn Cyfathrebu a graddau Aon neu D mewn Saesneg a Mathemateg/Rhifedd gyda'r ddealltwriaeth y bydd gofyn iddynt weithio tuag at ailsefyll Lefel 2 neu TGAU.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy gyfuniad o’r canlynol:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gweithdy realistig
  • Gweithgareddau ystafell ddosbarth
  • Efallai y bydd angen i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith

Byddwch yn cael tiwtor personol i'ch cefnogi drwy gydol eich cwrs.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Gallech fynd ymlaen i'r canlynol:

  • Prentisiaethau ym maes Peirianneg (Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg)
  • Cyflogaeth

Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol.

Mae Prentisiaethau a Phrentisiaethau Uwch hefyd yn ddewisiadau a allai apelio os ydych yn chwilio am waith yn lleol neu gyda chwmnïau cenedlaethol mwy.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol, Oedolion a Rhan-amser

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr yn gweithio ar fwrdd trydanol
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date