Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth -Trwsio a Phaentio Cerbydau Lefel 2 a 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:
    • Lefel 2: 24 mis
    • Lefel 3: 12 mis
Gwnewch gais
×

Prentisiaeth -Trwsio a Phaentio Cerbydau Lefel 2 a 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd y fframwaith hwn yn darparu'r cymhwysedd, y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i weithio'n effeithiol ac effeithlon.

  • Bydd Prentisiaid sylfaen (Lefel 2) yn hyfforddi fel technegwyr gan asesu a thrwsio'r difrod, adfer y corff neu gwaith paent.
  • Bydd Prentisiaid (Lefel 3) yn hyfforddi fel uwch dechnegwyr gan drwsio'r difrod ac adfer y corff neu gwaith paent ar amrywiaeth o gerbydau ysgafn a thrwm neu fel Aseswyr Difrod i Gerbydau gan werthuso'r difrod i gerbyd, asesu'r dulliau o drwsio'r cerbyd a rhoi amcangyfrif o'r gost.

Gofynion mynediad

3 TGAU gradd G neu uwch yn cynnwys Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth neu gymwysterau cyfwerth.

Cyflwyniad

  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2+3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Y Rhyl

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur