Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Crefft Peirianneg Lefel 1

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa yn un o'r meysydd canlynol?

  • Trin cerbydau modur
  • Ffabrigo
  • Weldio
  • Crefft Peirianneg

Cwrs ymarferol yw hwn. Byddwch yn cyflawni tasgau mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant ac yn meithrin ystod eang o sgiliau sy'n cynnwys: sgiliau ymarferol sylfaenol, ffabrigo, weldio, cynnal a chadw, a thrin gwifrau trydan.

Gofynion mynediad

Diddordeb mawr mewn peirianneg a; (or ac - depending on what comes next)

  • Ystyrir pob cais ar sail teilyngdod a chyfweliad llwyddiannus.
  • Dylai'r dysgwyr gael eu hannog i gael rhai cymwysterau TGAU gan y gall hyn gefnogi eu dilyniant y tu hwnt i'r cwrs sylfaen mewn crefftau adeiladu.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau go iawn yn y gweithdy
  • Gweithgareddau yn y dosbarth

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll arholiadau TGAU

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus gallwch fynd ymlaen i ddilyn un o'r cyrsiau canlynol:

  • Crefft Peirianneg Lefel 2
  • Trin a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 2
  • Trin a Thrwsio Cerbydau Trwm Lefel 2
  • Ffabrigo a Weldio Lefel 2
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Mae'r cwrs i'w gael yn ddwyieithog ar y campysau/lleoliadau canlynol :

  • Llangefni

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith