Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    12 - 15 Mis

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith Gwella Perfformiad Ymarferol yn cynnwys dau lwybr dysgu (Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2 a Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2) sy'n darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar brentisiaid i gynnal amrywiaeth o brosesau peirianneg a gweithgynhyrchu ar lefel led-grefftus ac ar lefel gweithredwr.

Mae llwybr Gwneud Gwaith Peirianneg Lefel 2 yn rhoi sylfaen gyffredinol mewn gweithrediadau a thechnegau peirianneg i brentisiaid sy’n gweithio ym maes peirianneg. Mae'r elfen gymhwysedd wedi'i theilwra i weithrediadau a thechnegau peirianneg. Byddant yn meddu ar statws lled-grefftus ar ôl cwblhau'r llwybr hwn.

Mae llwybr Gwneud Gwaith Cynhyrchu Lefel 2 yn canolbwyntio ar hyfforddi prentisiaid i weithredu'n effeithiol mewn amgylchedd gweithgynhyrchu.

Gofynion mynediad

  • 2 TGAU graddau G / graddau cyfwerth newydd 2 i 1 gan gynnwys Saesneg / Cymraeg a Mathemateg.
  • Rhaid cael cyflogwr addas sy'n gallu bodloni'r meini prawf NVQ

Cyflwyniad

  • Gwneud Gwaith Peirianneg - Astudio am ddiwrnod yr wythnos yn y coleg i ddysgu sgiliau peirianneg ymarferol.
  • Gwneud Gwaith Cynhyrchu - asesu technegau gweithgynhyrchu yn y gweithle

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau ymarferol
  • Tasgau a phrofion seiliedig ar theori

Dilyniant

O Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith