Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 3
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Y Rhyl, Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 - 36 Mis
Prentisiaeth - Peirianneg Lefel 3Prentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae'r Brentisiaeth mewn Peirianneg Lefel 3 wedi'i dylunio i ddarparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd sydd eu hangen i weithio ar lefel crefftwr neu dechnegydd.
Mae'n galluogi prentisiaid i feithrin gwybodaeth dechnegol a phrofiad ymarferol, ynghyd â sgiliau hanfodol a phersonol sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu swyddi presennol a'u gyrfa yn y dyfodol.
Mae'r llwybrau dysgu’n cynnwys:
Peirianneg Forol
Yn ymwneud â chynnal a chadw ac atgyweirio systemau a pheiriannau llongau. Mae'r prentisiaid yn dysgu am yriant, hydroleg, a systemau tanwydd, ac yn aml yn gweithio ar longau mewn dociau neu ar y môr.
Peirianneg Cynnal a Chadw Trydanol
Mae'r brentisiaeth yn canolbwyntio ar osod, profi, a chynnal a chadw systemau trydanol mewn amgylcheddau diwydiannol. Mae'r tasgau a gyflawnir yn cynnwys canfod diffygion, weirio paneli rheoli, a sicrhau cydymffurfedd â safonau diogelwch.
Peirianneg Cynnal a Chadw Mecanyddol
Yn ymwneud â gwasanaethu ac atgyweirio offer fel pympiau, falfiau a gerfocsys. Bydd prentisiaid yn tynnu peiriannau oddi wrth ei gilydd, yn gosod darnau newydd, ac yn cadw systemau'n gweithio'n effeithlon.
Peirianneg Gweithgynhyrchu
Yn canolbwyntio ar gynhyrchu cydrannau gan ddefnyddio offer fel peiriannau CNC. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys cynnal gwiriadau ansawdd, dehongli lluniadau technegol, a chydosod eitemau mewn ffatrïoedd.
Peirianneg Awyrennau
Yn ymwneud â chynnal a chadw a dylunio systemau awyrennau. Bydd prentisiaid yn archwilio peiriannau, yn gosod systemau afionig, neu'n cynorthwyo i brofi hediadau o dan reoliadau llym.
Gosod a Chomisiynu
Yn ymwneud â gosod a phrofi offer neu systemau newydd ar safleoedd cwsmeriaid. Mae prentisiaid yn gosod peiriannau, yn calibro offer, ac yn sicrhau bod systemau'n gweithio fel y dylent.
Gofynion mynediad
- 3 TGAU gradd C (gradd 4 newydd) neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg, Mathemateg ac un arall.
- Rhaid cael cyflogwr addas sy'n gallu bodloni'r meini prawf NVQ
Cyflwyniad
- Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac nae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
- Gall ymgeiswyr sydd wedi cwblhau'r BTEC Peirianneg Awyrennau Lefel 3 llawn amser yn llwyddiannus fynd ymlaen i astdio Peirianneg Awyrennau.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
Dilyniant
- Prentisiaeth Uwch Lefel 4
- HNC mewn Peirianneg
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
Darpariaeth ddwyieithog ar gael