Prentisiaethau Gwaith Niwclear (Monitro Ffiseg Iechyd)- Diploma Amddiffyn rhag Ymbelydredd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Dysgu Seiliedig ar Waith
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
24 mis
Prentisiaethau Gwaith Niwclear (Monitro Ffiseg Iechyd)- Diploma Amddiffyn rhag YmbelydreddPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn cydnabod sgiliau, gwybodaeth a chymhwysedd unigolion sy'n gweithio ym maes diogelu rhag ymbelydredd a Monitro Ffiseg Iechyd. Fe'i hanelir at ddysgwyr sy'n staff technegol, ond a all hefyd fod yn gweithio mewn ystod eang o swyddi cefnogol. Yn ogystal, bydd yn cynorthwyo cyflogwyr i gydymffurfio â Rheoliadau Statudol Ymbelydredd Ïoneiddio 2017. Rhaid cwblhau 14 uned, yn cynnwys:
- Monitro peryglon a chyflyrau'n ymwneud ag ymbelydredd
- Monitro'r amgylchedd
- Monitro pobl wrth iddynt weithio gydag ymbelydredd
- Gwneud gwaith sy'n ymwneud ag ymbelydredd
- Ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud ag ymbelydredd
- Profi offer sy'n diogelu rhag ymbelydredd
Gofynion mynediad
- Rhaid i bob prentis fod â chyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
Darperir y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn y gweithle. Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori.
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
Symud ymlaen o Lefel 2 i rôl goruchwyliwr ar Lefel 3.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
5
Maes rhaglen:
- Peirianneg
Dwyieithog:
n/a