Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Crefft Peirianneg Lefel 2 - Llwybr i Brentisiaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Crefft Peirianneg Lefel 2 - Llwybr i Brentisiaeth

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn eich paratoi i weithio mewn amrywiaeth o swyddi ym maes peirianneg, mewn diwydiannau sy'n cynnig cymorth technegol a diwydiannau gweithgynhyrchu.

Mae'r cwrs yn gymysgedd o dasgau ymarferol mewn gweithdai sy'n cyrraedd safonau'r diwydiant a gweithgareddau ystafell ddosbarth i feithrin dealltwriaeth o egwyddorion peirianneg.

Mae cyflogwyr lleol a rhyngwladol yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol ac addysgol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd A*-D ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith 1af a Mathemateg neu Rifedd.
  • Wedi cwblhau'r cwrs Crefft Peirianneg Lefel 1 yn llwyddiannus
  • Wedi cwblhau'r Cwrs Sylfaen Lefel 1 neu 2 mewn Peirianneg (Llangefni yn unig)

Mae'r broses ymgeisio yn cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs a'ch profiad blaenorol, hyfforddiant neu gymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau go iawn yn y gweithdy
  • Gweithgareddau yn y dosbarth

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll arholiadau TGAU

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi’r cyfle i chi symud ymlaen i Lefel 3 Crefft Peirianneg, neu Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg.

Dewis arall fyddai gwneud cais am brentisiaeth gyda chwmni lleol a chael eich rhyddhau o'r gwaith ddiwrnod yr wythnos er mwyn cwblhau hyfforddiant bellach.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Dolgellau
  • Pwllheli

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith