Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Addurno a Phlastro ac Teilsio)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu (Addurno a Phlastro ac Teilsio)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi ddechrau ar yrfa ym maes Paentio ac Addurno a Teilsio? Rydych yn gwybod eich bod am ganolbwyntio ar un o'r crefftau hyn ym maes Adeiladu. Os felly, dyma'r cwrs i chi!

Ar y rhaglen hon, cewch eich cyflwyno i sgiliau sylfaenol Paentio ac Addurno a Teilsio. Mae cwricwlwm y cwrs Sylfaen yn eang ac yn cynnwys gyrfaoedd a swyddi sydd i'w cael yn gyffredin yn y sector adeiladu.

Mae'r cymhwyster sylfaen yn cynnwys unedau a themâu sydd i'w cael hefyd ar gyrsiau Sylfaen eraill ym maes Adeiladu; y bwriad yw ehangu gwybodaeth am sut mae'r diwydiant adeiladu'n gweithio er mwyn paratoi dysgwyr yn well ar gyfer gweithio yn y sector.

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer amrywiaeth o bobl sy'n awyddus i weithio ym maes adeiladu. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol, neu unigolion o sectorau eraill sydd am newid gyrfa. Byddwch yn meithrin y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i fynd ymlaen i astudio am Gymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu (Lefel 3) neu i ymuno â'r diwydiant drwy gael Prentisiaeth.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU Gradd G neu uwch
  • neu fod wedi cwblhau'r cymhwyster Llwybr i Sgiliau Adeiladu,
  • neu gymhwyster lefel 1 perthnasol,
  • neu brofiad perthnasol yn y diwydiant, neu waith perthnasol arall.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol.

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Gwaith grŵp
  • Sesiynau ymarferol mewn gweithdai
  • Dysgu yn y dosbarth
  • Cefnogaeth tiwtor
  • Ymweliadau addysgol
  • Amgylchedd Dysgu Rhithwir

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Asesiadau ar-lein (sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall dysgwyr fynd yn ôl a blaen rhwng y ddwy iaith yn ystod y prawf ar-lein)
  • Prawf synoptig sy'n cynnwys y ddwy grefft
  • Trafodaeth dan arweiniad

Dilyniant

Bydd y rhaglen yn rhoi i chi gymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i gael Prentisiaeth neu i barhau â'ch addysg drwy astudio am y Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu.

Cyfleoedd Dilyniant:

Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu

(Ar y rhaglen hon gall dysgwyr ganolbwyntio ar un grefft benodol)

  • Gwaith Brics
  • Gwaith Saer ac Asiedydd
  • Plymwaith
  • Gosod Trydan
  • Plastro
  • Paentio ac Addurno
  • Teilsio

Prentisiaeth ym maes Adeiladu

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Paentio ac Addurno

( er mwyn cael prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu. Nid yw dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymhwyster hwn tra ar gwrs adeiladu llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn gorfod cwblhau'r Cymhwyster Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'