Prentisiaethau mewn Gwaith Asiedydd
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
- Lefel 2: 24 mis
- Lefel 3: 18 mis
Prentisiaethau mewn Gwaith AsiedyddPrentisiaethau
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn hyfforddiant galwedigaethol ble mae'r prentis yn dilyn fframwaith Sgiliau Adeiladu cydnabyddedig er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac yna yn eu harddangos ac yn casglu tystiolaeth o hynny mewn amgylchedd adeiladu.
Er mwyn cwblhau Prentisiaeth ym maes Adeiladu, rhaid bod y prentis yn gweithio yn ystod y brentisiaeth ac ar ddiwedd y cwrs, a bod ganddo dystiolaeth o gymhwysedd mewn ystod o sgiliau galwedigaethol penodol.
Gofynion mynediad
- Rhaid i bob ymgeisydd gael TGAU gradd D neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd neu wedi cwblhau'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu
- I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
- Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
2+3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Llangefni
- Llandrillo-yn-Rhos
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig