Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cymhwyster Sylfaen ym maes Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwaith Trydan)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cymhwyster Sylfaen ym maes Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwaith Trydan)

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Hoffech chi gael gyrfa ym maes Peirianneg y Gwasanaethau Adeiladu – Plymwaith a Gwresogi neu Osod Trydan? Rydych yn gwybod eich bod am ganolbwyntio ar un o'r crefftau hyn ym maes Adeiladu. Os felly, dyma'r cwrs i chi!

Ar y rhaglen hon, cewch eich cyflwyno i'r technegau sylfaenol sy'n gysylltiedig â phlymwaith, gwres canolog a gosod trydan, a chewch eich paratoi ar gyfer gweithio yn y meysydd hyn. Bydd y cwrs yn rhoi i chi wybodaeth gefndirol am yrfaoedd a phroffesiynau eraill sy'n gysylltiedig ag adeiladu; cewch hefyd feithrin y sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni tasgau amrywiol ym maes plymwaith a gosod trydan, a gwybodaeth sylfaenol am sut mae systemau plymwaith, gwresogi a thrydan yn gweithio. Mae'r cymhwyster sylfaen yn cynnwys unedau a themâu sydd i'w cael hefyd ar gyrsiau sylfaen eraill ym maes Adeiladu; y bwriad yw ehangu gwybodaeth am sut mae'r diwydiant adeiladu'n gweithio er mwyn paratoi dysgwyr yn well ar gyfer gweithio yn y sector.

Mae'r rhaglen yn addas ar gyfer amrywiaeth o bobl sy'n awyddus i weithio ym maes adeiladu. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr sydd newydd adael yr ysgol, neu unigolion o sectorau eraill sydd am newid gyrfa. Byddwch yn meithrin y wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i fynd ymlaen i astudio am Gymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu (Lefel 2) neu i wneud prentisiaeth yn y diwydiant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 4 TGAU Gradd G neu uwch
  • neu fod wedi cwblhau'r cymhwyster Llwybr i Sgiliau Adeiladu,
  • neu gymhwyster lefel 1 perthnasol,
  • neu brofiad perthnasol yn y diwydiant, neu waith perthnasol arall.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd, byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol.

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf
  • Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig (RWE)
  • Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
  • Trafodaethau
  • Arddangosiadau
  • Sesiynau 1:1 a thiwtorialau grŵp

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Prawf synoptig ar ddiwedd y cwrs.
  • Arholiad theori amlddewis a gynhelir ar-lein.
  • Trafodaeth dan arweiniad

Dilyniant

Bydd y rhaglen yn rhoi i chi gymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i gael Prentisiaeth neu i barhau â'ch addysg drwy astudio am y Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu . Cyfleoedd Dilyniant:

Cymhwyster Dilyniant ym maes Adeiladu (Ar y rhaglen hon gall dysgwyr ganolbwyntio ar un grefft benodol)

  • Plymwaith
  • Gosod Trydan

Prentisiaeth ym maes Adeiladu

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Plymio a Gwresogi
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Trydanol

(Nodyn: er mwyn cael prentisiaeth yn y diwydiant adeiladu mae'n ofynnol i ddysgwyr gwblhau'r Cymhwyster Sylfaen ym maes Adeiladu. Nid yw dysgwyr sydd wedi cwblhau'r cymhwyster hwn tra ar gwrs adeiladu llawn amser yng Ngrŵp Llandrillo Menai yn gorfod cwblhau'r Cymhwyster Sylfaen yn ystod eu prentisiaeth)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'