Prentisiaethau mewn Plastro
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
- Math o gwrs:Prentisiaethau
- Dull astudio:Rhan amser
- Lefel:3
- Maes rhaglen:Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
- Hyd:
3 blynedd
- Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Dolgellau
- Llangefni
- Llandrillo-yn-Rhos
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn hyfforddiant galwedigaethol ble mae'r prentis yn dilyn fframwaith Sgiliau Adeiladu cydnabyddedig er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac yna yn eu harddangos ac yn casglu tystiolaeth o hynny mewn amgylchedd adeiladu.
Er mwyn cwblhau Prentisiaeth ym maes Adeiladu rhaid bod y prentis yn gweithio yn ystod y brentisiaeth ac ar ddiwedd y cwrs, a bod ganddo dystiolaeth o gymhwysedd mewn ystod o sgiliau galwedigaethol penodol.
Gofynion mynediad
- Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes adeiladu yn ddymunol.
- Dylai fod gan brentisiaid gyflogwr a fedr ateb gofynion meini prawf yr NVQ.
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.
Cyflwyniad
- Mae'r hyfforddiant technegol yn cael ei ddarparu yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol
Asesiad
- Cwblhau portffolio o dystiolaeth
- Arsylwadau yn y gweithle
- Tasgau a phrofion theori
Dilyniant
O Brentisiaeth Sylfaenol Lefel 2 i Brentisiaeth Lefel 3
A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?
Ar gyfer cyrsiau Prentisiaeth, rhaid cysylltu a Busnes@LlandrilloMenai ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.