Prentisiaeth - Plymwaith a Gwresogi
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos
- Dull astudio:Rhan amser
- Hyd:
Hyd at 4.5 mlynedd
Prentisiaeth - Plymwaith a GwresogiPrentisiaethau
I gael gwybodaeth bellach neu i wneud cais am brentisiaeth, cliciwch y botwm isod a chwblhau'r ffurflen.
Ffurflen ymholi am brentisiaethDisgrifiad o'r Cwrs
Mae prentisiaeth mewn Plymio a Gwresogi yn gwrs 4 ½ blynedd lle rydych chi'n cael eich cyflogi gan gwmni Plymio a Gwresogi neu gwmni adeiladu ac yn mynychu'r coleg 1 diwrnod yr wythnos.
Tra byddwch ar y safle gyda'ch cyflogwr byddwch yn meithrin sgiliau a phrofiad o weithio ar dasgau plymio a gwresogi. Ar y dechrau, byddwch yn gwneud tasgau lefel isel ac yn helpu plymwyr cymwys i wneud eu gwaith; ond dros amser, byddwch yn ennill profiad ac yn dysgu am systemau Gwres Canolog, systemau Poeth ac Oer a systemau Glanweithdra (setiau ystafell ymolchi a chawodydd).
Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn cael eich asesu ar y safle yn gwneud amrywiaeth o dasgau plymio a gwresogi. Dyma'r “Prosiect Ymarferol Terfynol” lle bydd asesydd o'r coleg yn ymweld â chi am nifer o ddyddiau i gadarnhau eich cymhwysedd.
Byddwch yn mynychu'r coleg un diwrnod yr wythnos drwy gydol eich prentisiaeth. Bydd yr wythnosau yn y coleg ar sail blwyddyn academaidd arferol. Yn y coleg cewch gymysgedd o theori yn yr ystafell ddosbarth a sesiynau ymarferol mewn gweithdai.
Bydd yr elfen theori yn cwmpasu pob agwedd ar y diwydiant plymio a gwresogi, a'r diwydiant adeiladu. Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu datblygu yn y coleg yn atgyfnerthu eich profiad ar safleoedd gwaith. Bydd gofyn i chi sefyll hyd at dri arholiad cwestiynau amlddewis ar-lein a chael 45 munud o Drafodaeth Broffesiynol gydag arholwr allanol. Dim ond un asesiad ymarferol a gynhelir tra byddwch chi yn y coleg.
Llwybrau Plymio.
Mae gan brentisiaethau Plymio a Gwresogi “lwybrau” penodol i chi ddewis ohonynt hefyd, mae hyn yn dibynnu ar y math o waith y mae eich cyflogwr yn ei wneud. Mae dau lwybr, Peirianneg Nwy ac Amgylcheddol. Os dewiswch y llwybr Peirianneg Nwy, byddwch yn cwblhau'r hyfforddiant a'r asesiad angenrheidiol i weithio ar systemau nwy a chael eich cofrestru ar y Gofrestr Diogelwch Nwy. Mae'r llwybr Amgylcheddol ar gyfer cwmnïau sy'n arbenigo mewn systemau Ynni Adnewyddadwy, fel Dŵr Poeth Solar, a Phympiau Gwres - unwaith eto, byddwch yn cwblhau'r hyfforddiant a'r asesiad angenrheidiol i fod yn gymwys i osod y systemau hyn.
Gofynion mynediad
- Lleiafswm o 3 TGAU gradd A* i C mewn Saesneg neu Gymraeg, Mathemateg a chymhwyster seiliedig ar Wyddoniaeth neu Dechnoleg
a
- I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd.
a
- Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
Cyflwyniad
Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg un diwrnod yr wythnos, ac mae'n cynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau sy'n ymdrin â phynciau penodol, yn ogystal â sgiliau Llythrennedd a Rhifedd os oes angen.
Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:
- Sesiynau ymarferol mewn gweithdai lle ceir cyfleusterau o’r radd flaenaf
- Hyfforddiant mewn amgylchedd gwaith realistig
- Gwersi theori mewn ystafelloedd dosbarth llawn cyfarpar
- Ymweliadau gan Asesydd Dysgu Seiliedig ar Waith
- Trafodaethau
- Arddangosiadau
- Sesiynau tiwtorial un i un a sesiynau tiwtorial grŵp
Asesiad
Cewch eich asesu drwy gyfuniad o’r dulliau canlynol:
- Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
- Asesiad ar-lein (sydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Gall dysgwyr fynd yn ôl a blaen rhwng y ddwy iaith yn ystod y prawf ar-lein)
- Asesiadau Seiliedig ar Waith
- Prawf synoptig, ymarferol
- Trafodaeth broffesiynol
- Prosiect Terfynol
Dilyniant
Hyfforddiant pellach mewn meysydd tanwydd penodol fel nwy, ynni adnewyddadwy ac arbenigeddau mewn meysydd crefftau eraill.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Prentisiaethau
Lefel:
3
Maes rhaglen:
- Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dwyieithog:
Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:
- Llangefni
- Llandrillo-yn-Rhos
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
