Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau Gweithrediadau Adeiladwaith Cyffredinol

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    3 flynedd

Gwnewch gais
×

Prentisiaethau Gweithrediadau Adeiladwaith Cyffredinol

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae prentisiaeth ym maes adeiladu yn hyfforddiant galwedigaethol ble mae'r prentis yn dilyn fframwaith Sgiliau Adeiladu cydnabyddedig er mwyn datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac yna yn eu harddangos ac yn casglu tystiolaeth o hynny mewn amgylchedd adeiladu.

Er mwyn cwblhau Prentisiaeth ym maes Adeiladu rhaid bod y prentis yn gweithio yn ystod y brentisiaeth ac ar ddiwedd y cwrs, a bod ganddo dystiolaeth o gymhwysedd mewn ystod o sgiliau galwedigaethol penodol.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i bob ymgeisydd gael TGAU gradd D neu uwch mewn llythrennedd a rhifedd neu wedi cwblhau'r cwrs Sylfaen mewn Adeiladu
  • I fodloni'r meini prawf mynediad ar gyfer y Brentisiaeth, dylai fod gennych gymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr sy’n gallu bodloni meini prawf y cymhwyster prentisiaeth.
  • Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

  • Darperir hyfforddiant technegol yn y coleg 1 diwrnod yr wythnos, gan gynnwys amser mewn gweithdai ymarferol.

Asesiad

  • Cwblhau portffolio o dystiolaeth
  • Arsylwadau yn y gweithle
  • Tasgau a phrofion theori

Dilyniant

O ran y diwydiant, bydd y rhaglen yn rhoi i chi'r sgiliau a'r cymhwyster sy'n angenrheidiol i fynd yn hunangyflogedig neu i weithio i gwmni neu gontractwr.

Mae'r rhaglen yn darparu cymhwyster a set o sgiliau gwerthfawr i'ch helpu fynd ymlaen i gyflogaeth neu addysg bellach.

Gallech ddewis un o'r nifer o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn Grŵp Llandrillo Menai.

.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dwyieithog:

n/a

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig

Myfyrwyr yn edrych trwy 'total station'