Micro-ddysgu
Darganfyddwch ffordd newydd o ddysgu gyda'n sesiynau hyfforddi micro-ddysgu - sesiynau effeithiol a gynlluniwyd ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol prysur ledled gogledd Cymru a'r gogledd orllewin.
Mae ein cyrsiau micro-ddysgu newydd yn cynnig ffordd hyblyg ac effeithlon o ran amser i uwchsgilio, gyda chynnwys ymarferol â ffocws sy'n cyflawni canlyniadau go iawn - yn gyflym.
P'un a ydych chi'n awyddus i fireinio'ch sgiliau cyfathrebu, rhoi hwb i'ch hyder, cryfhau eich sgiliau arwain, gwella perfformiad, datblygu diwylliannau cadarnhaol neu wella effeithlonrwydd, mae'r sesiynau deinamig hyn yn ffitio'n hawdd i'ch diwrnod a'ch nodau datblygu.
Manteision Micro-ddysgu:
- Effeithlon – Mae sesiynau micro-ddysgu'n ffitio'n hawdd i amserlenni prysur gan eich galluogi i ddysgu sgiliau newydd heb darfu ar eich diwrnod gwaith.
- Hygyrch – Cyflwynir ein cyrsiau micro-ddysgu ym Mharc Busnes Llanelwy sy'n lleoliad canolog a chyfleus ar gyfer datblygiad proffesiynol yng ngogledd Cymru.
- Effeithiol – Mae ein model dysgu yn cyfuno sesiynau wyneb yn wyneb â sesiynau ar-lein. O ganlyniad mae'r profiad dysgu'n un hyblyg a diddorol sy'n diwallu anghenion proffesiynol amrywiol.
- Perthnasol – Grymuswch eich tîm i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain gyda llwybrau dysgu pwrpasol sy'n canolbwyntio ar y sgiliau sydd fwyaf perthnasol i staff ac amcanion eich sefydliad.
- Gwerth am Arian – Sicrhewch ganlyniadau mesuradwy mewn byr amser am gost resymol. O fanteisio ar ein cyrsiau micro-ddysgu byddwch yn gweld cynnydd mewn sgiliau, hyder a chynhyrchiant yn y gweithle.
Dewis eich llwybr a dewis eich amserlen:
Rydym ni'n cynnig llwybrau dysgu amrywiol sy'n addas i reolwyr ar bob lefel ac y gellir eu dilyn ar unrhyw gyflymder. Mae ein llwybrau dysgu’n cynnwys:
- Arweinyddiaeth a Meddwl yn Strategol >>> Ar gyfer uwch arweinwyr a rheolwyr sy'n gyfrifol am strategaeth, datblygu sefydliadol, a thwf tîm.
- Datblygu a Rheoli Perfformiad Gweithwyr >>> Ar gyfer arweinwyr a rheolwyr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu talent, gwella perfformiad, a gyrru llwyddiant sefydliadol.
- Datblygiad Personol a Magu Hyder >>> Ar gyfer unigolion a thimau sy'n awyddus i wella hyder, cyfathrebu ac effaith bersonol.
- Gwella Prosiectau a Busnes >>> Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr sy'n gyrru prosiectau, gwella prosesau, neu newid sefydliadol.
- Amrywiaeth yn y Gweithle a'r Gweithlu >>> Ar gyfer arweinwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n hyrwyddo cynhwysiant, llesiant a pherfformiad tîm.
- Datblygu'r Meddylfryd a'r Gallu i Hunanadfyfyrio >>> Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n chwilio am dwf personol, eglurder, a meddylfryd pwrpasol.
Cewch wybod isod am ystod o gyrsiau sydd ar gael ar bob llwybr. Cliciwch y ddolen i archebu eich lle.
Arweinyddiaeth a Meddwl yn Strategol
Arwain gyda gweledigaeth. Ysbrydoli perfformiad. Cyflawni canlyniad.
Datblygu'r weledigaeth, yr eglurder a'r gallu i arwain gyda phwrpas a bwriad strategol. Mae'r rhaglenni hyn yn cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau, yn cynyddu dylanwad, ac yn rhoi sgiliau i arweinwyr i yrru perfformiad a thwf cynaliadwy.
Ar gyfer uwch arweinwyr a rheolwyr sy'n gyfrifol am strategaeth, datblygu sefydliadol, a thwf tîm.
Mae cyrsiau yn cynnwys:
Datblygu a Rheoli Perfformiad Gweithwyr
Grymuso eich pobl. Datblygu talent. Gyrru perfformiad.
Datblygu diwylliant lle mae pobl yn ffynnu. Mae'r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu talent, cryfhau gallu, a gwella perfformiad trwy hyfforddi, mentora ac adborth effeithiol. Dysgwch sut i adsgilio, uwchsgilio a datgloi potensial llawn eich timau.
Ar gyfer arweinwyr a rheolwyr sydd wedi ymrwymo i ddatblygu talent, gwella perfformiad, a gyrru llwyddiant sefydliadol.
Mae cyrsiau yn cynnwys:
Datblygiad Personol a Magu Hyder
Magu hyder. Cyfathrebu gydag effaith. Datgloi potensial eich tîm.
Gwella hunanymwybyddiaeth, hyder a sgiliau cyfathrebu er mwyn perfformio ar eich gorau. Mae'r rhaglenni hyn yn eich helpu i oresgyn hunan-amheuaeth, cryfhau presenoldeb, a datblygu'r meddylfryd a'r technegau i gyfathrebu'n glir ac yn effeithiol.
Ar gyfer unigolion a thimau sy'n awyddus i wella hyder, cyfathrebu ac effaith bersonol.
Mae cyrsiau yn cynnwys:
Gwella Prosiectau a Busnes
Arwain y gwelliant. Cyflwyno rhagoriaeth. Gyrru canlyniadau.
Hyrwyddo arloesedd ac effeithlonrwydd ar draws eich sefydliad. Mae'r rhaglenni hyn yn canolbwyntio ar reoli prosiectau'n effeithiol, gwelliant parhaus, ac ymgorffori arferion sy'n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy'n gwella ansawdd, cynhyrchiant a rhagoriaeth gwasanaeth.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac arweinwyr sy'n gyrru prosiectau, gwella prosesau, neu newid sefydliadol.
Mae cyrsiau yn cynnwys:
- Rheoli Prosiectau Hanfodion
- Defnyddio Technegau Gwella Busnes i Wella Effeithiolrwydd Gweithrediadau
- Cynyddu Effeithlonrwydd yn y Gweithle trwy Welliannau i Ansawdd Cyflwyniad
- Gwasanaeth Rhagorol i Gwsmeriaid
- Gwybodaeth am Farchnata ar gyfer Busnesau Bach
- Cyflawni Newid Llwyddiannus sy'n arwain at Effaith
Amrywiaeth yn y Gweithle a'r Gweithlu
Cynnwys pencampwr. Adeiladu gwydnwch. Ffynnu gyda'n gilyddr.
Creu gweithle lle gall pawb ffynnu. Mae'r rhaglenni hyn yn archwilio sut i adeiladu timau cynhwysol, gwydn, a pherfformiad uchel drwy gofleidio amrywiaeth, cryfhau lles, a meithrin cydweithio ar draws cenedlaethau.
Ar gyfer arweinwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n hyrwyddo cynhwysiant, llesiant a pherfformiad tîm.
Mae cyrsiau yn cynnwys:
- Gêm y Cenedlaethau - Sut i Gael Gweithlu Amrywiol
- Ffynnu gyda'n Gilydd: Meithrin Gwydnwch a Llesiant mewn Gweithle Cynhwysol
Meithrin amgylcheddau lle mae pobl a syniadau’n ffynnu: Archwiliwch sut mae diwylliant yn sbarduno perfformiad ac arloesedd. Dysgwch sut i feithrin meddylfryd o arbrofi, diogelwch seicolegol, a gwelliant parhaus—gan rymuso'ch tîm neu sefydliad i esblygu a thyfu.
Datblygu'r Meddylfryd a'r Gallu i Hunanadfyfyrio
Myfyrio. Ailffocysu. Gwireddu potensial eich tîm.
Datblygu mwy o eglurder, pwrpas a gwydnwch trwy ymarfer myfyriol a meddylfryd sy'n canolbwyntio ar dwf. Mae'r rhaglenni hyn yn eich helpu i harnesu hunanymwybyddiaeth, meithrin positifrwydd, a chyd-fynd â'ch nodau ar gyfer cyflawniad personol a phroffesiynol parhaol.
Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n chwilio am dwf personol, eglurder, a meddylfryd pwrpasol.
Mae cyrsiau yn cynnwys: