Prosiectau Strategol: Sut i Lwyddo
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 diwrnod
ffi cwrs £110
Prosiectau Strategol: Sut i Lwyddo
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae nifer o sefydliadau yn dibynnu ar brosiectau mawr neu brosiectau bach er mwyn datblygu'n strategol. Ond mae hyn y codi cwestiynau sylfaenol: Pa brosiectau ddylen ni fynd amdanynt? Ydyn nhw'n cael eu rheoli yn modd cywir? Sut maen nhw'n cyd-fynd â gweithrediadau dydd i ddydd y sefydliad? Ydyn ni'n ymdrin â'r rhain yn strategol? Yn y bôn - ydyn ni'n deall natur a phwrpas y prosiectau?
Mae arddull hyfforddi'r cwrs yn cynnig cipolwg ar arwain prosiectau, ac yn nodi mai prosiectau ydy'r cyswllt pwysig rhwng strategaeth a gweithrediadau. Er mwyn manteisio i'r eithaf ar lwyddiant, mae angen i bersbectif arweinwyr ystyried disgwyliadau rhanddeiliaid a gweithio tuag at greu amgylchedd sy'n cynnal gallu prosiect ac yn ei annog i ffynnu.
Pam Dilyn y Cwrs?
Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o safbwynt arweinydd o gymhlethdodau prosiectau strategol.
Cewch archwilio safbwyntiau newydd yn ymwneud â heriau cyffredin prosiectau.
Byddwch yn dysgu drwy drafodaethau â chyfoedion a hyfforddiant wedi'i hwyluso.
Bydd cyfle i gynnig eich syniadau chi am brosiectau neu fentrau byw i fyfyrio arnynt a derbyn adborth.
I bwy mae’n addas?
Mae'n addas ar gyfer gweithwyr sy'n gweithio ar brosiectau strategol, o'r cyfnod cychwynnol hyd at y cyfnod rhoi'r prosiect ar waith sydd eisiau mireinio'r ffordd o feddwl am brosiect a chydweddu'r arweinyddiaeth ac a fyddai'n elwa o amgylchedd hyfforddi.
Datblygwch bersbectif a'r weledigaeth i arwain prosiectau strategol gyda phwrpas, eglurder ac yn effeithiol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli