Arwain Timau Llwyddiannus
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 day.
Course fee £110
Arwain Timau Llwyddiannus
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gweithdy rhyngweithiol hwn yn grymuso arweinwyr i adeiladu, rheoli a chynnal timau llwyddiannus gan ddefnyddio egwyddorion seicoleg sefydliadol. Bydd y dysgwyr yn dysgu am ddulliau a strategaethau ymarferol i wella perfformiad tîm, meithrin cydweithio, a rheoli dynameg tîm amrywiol yn effeithiol.
Mae'r sesiwn yn cyfuno theori â rhoi'r theori ar waith, gan helpu arweinwyr i ddeall beth sy'n ysgogi perfformiad tîm rhagorol — a sut i ymgorffori hyn yn eu harferion arweinyddiaeth o ddydd i ddydd.
Bydd pob dysgwr hefyd yn llunio cynllun gweithredu personol, gan nodi o leiaf dri phrif beth a ddysgwyd a'r camau y byddant yn eu gweithredu gyda'u timau.
Pam dilyn y cwrs?
Erbyn diwedd y sesiwn bydd y dysgwyr yn gallu:
Diffinio prif nodweddion ac ymddygiadau allweddol timau sy'n perfformio'n llwyddiannus (e.e. ymddiriedaeth, atebolrwydd, cydweithio, a nodau clir)
Deall a dylanwadu ar y cysylltiad rhwng dynameg tîm a pherfformiad
Nodi rôl yr arweinydd wrth ysgogi a chynnal effeithiolrwydd tîm
Gwella diogelwch seicolegol er mwyn cynyddu perfformiad tîm
I bwy mae’n addas?
Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer:
Arweinwyr tîm
Rheolwyr
Gweithwyr proffesiynol lefel canol sy'n paratoi ar gyfer rolau uwch
Cofrestrwch nawr i gael y dulliau, y mewnwelediad a'r hyder i arwain yn effeithiol a datgloi potensial llawn eich tîm.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli