Y Cwmpawd Mewnol: Llywio Eich Dyfodol gyda Phwrpas
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
4 awr
ffi cwrs £75
Y Cwmpawd Mewnol: Llywio Eich Dyfodol gyda Phwrpas
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gweithdy trawsnewidiol hwn yn galluogi cyfranogwyr i ddychmygu eu dyfodol delfrydol - yn bersonol neu'n broffesiynol - trwy dechnegau delweddu deinamig, gosod nodau, a dulliau hyfforddi pwerus. Byddwch yn gadael gyda gweledigaeth glir, map y gellir ei weithredu, a theimlad o hyder yn eich gallu i gyflawni eich gweledigaeth.
Pam Dilyn y Cwrs?
I gael eglurder yn eich gweledigaeth
I gael gweledigaeth glir ac ysgogol ar gyfer eich dyfodol personol neu ddyfodol proffesiynol, yn unol â'ch gwerthoedd craidd a'ch angerdd.
Gosod Nodau Pwerus, Gweithredadwy
Dysgu sut i osod nodau SMART sy'n benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn berthnasol, ac sydd â chyfyngiad amser.
Torri breuddwydion mawr yn gamau bach hylaw, a datblygu map ymarferol i'w ddilyn.
Cyflawni Cydbwysedd mewn Bywyd
Defnyddio dull hyfforddi Olwyn Bywyd i asesu a chydbwyso meysydd allweddol bywyd, i sicrhau cydbwysedd mewn twf a boddhad personol.
Hwb i Hyder a Meddylfryd
Meithrin meddylfryd cadarnhaol a gwydn trwy ymarferion sy'n magu hyder a strategaethau ymarferol i oresgyn hunan-amheuaeth.
Meithrin meddylfryd twf sy'n grymuso cyfranogwyr i wthio heibio i heriau a chyrraedd eu potensial llawn.
Creu Bwrdd Gweledigaeth
Datblygu cynrychiolaeth weledol o'u nodau, eu dyheadau, a'u llwyddiant yn y dyfodol, gan ddefnyddio bwrdd gweledigaeth fel arf dyddiol ar gyfer cymhelliant ac ysbrydoliaeth.
Gadael gyda Map/Cynllun
Gadael gyda chynllun clir, ymarferol ar gyfer y camau nesaf yn eu taith tuag at gyflawni eu gweledigaeth.
Sefydlu arferion atebolrwydd i aros ar y trywydd iawn a pharhau â chynnydd y tu hwnt i'r gweithdy
I bwy mae’n addas?
Unigolion sy'n chwilio am gyfeiriad yn eu bywyd personol neu eu bywyd proffesiynol
Entrepreneuriaid a pherchnogion busnesau sy'n awyddus i fireinio eu gweledigaeth a'u nodau
Unrhyw un sydd eisiau creu mwy o gydbwysedd, cyflawniad a phwrpas yn eu bywyd
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli