Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Arwain gyda Mewnwelediad: Deallusrwydd Emosiynol ar gyfer Hunan-Arweinyddiaeth

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod.

    ffi cwrs £110

Cofrestrwch
×

Arwain gyda Mewnwelediad: Deallusrwydd Emosiynol ar gyfer Hunan-Arweinyddiaeth

Cyrsiau Byr

Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.

Disgrifiad o'r Cwrs

Camwch i faes Arweinyddiaeth gyda hyder ac eglurder

Ydych chi'n camu i swydd newydd neu'n wynebu cymhlethdod cynyddol yn eich un bresennol? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Yn ôl McKinsey* mae mwy na 40% o arweinwyr newydd yn baglu o fewn eu 18 mis cyntaf. Ond gallai'ch stori chi fod yn wahanol.

Bydd ymuno â'r rhaglen hon yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi i lywio cymhlethdodau pobl a sefyllfaoedd yn llwyddiannus, beth bynnag fo'ch cefndir.

Pam dilyn y cwrs?

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Deall beth sy'n eich cymell chi go iawn - a beth allai fod yn eich dal yn ôl

  • Gwerthuso effaith eich arweinyddiaeth ar bum maes allweddol sy'n sbarduno perfformiad yn y sefydliadau gorau

  • Datblygu cynllun gweithredu a llunio map ar gyfer gweddnewid eich arweinyddiaeth, gyda strategaethau i ennill cefnogaeth gan randdeiliaid allweddol.

I bwy mae’n addas?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n barod i arwain gyda mwy o effaith, gan gynnwys:

  • Arweinwyr tîm

  • Rheolwyr

  • Gweithwyr proffesiynol lefel canol sy'n paratoi ar gyfer rolau uwch

P'un ai ydych chi'n newydd i arweinyddiaeth neu'n llywio newid cymhleth, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i fod ar eich gorau - yn gyflym.

Anghofiwch y rheol 100 diwrnod. Nawr yw'r amser i arwain gydag effaith.

Ymunwch â ni a chymerwch y cam cyntaf ar eich taith arweinyddiaeth.


Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date