Gwybodaeth Marchnata ar gyfer Busnesau Bach
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
Hanner diwrnod (3.30 awr)
Gwybodaeth Marchnata ar gyfer Busnesau Bach
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ydych chi'n newydd i farchnata?
Yn cael trafferth cyrraedd y cwsmeriaid cywir?
Tybed pam nad yw eich negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyflawni'r canlyniadau yr oeddech chi'n eu disgwyl?
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn eich helpu i gynllunio eich marchnata yn fwy effeithiol a thargedu'r bobl sydd fwyaf tebygol o ddod yn gwsmeriaid ffyddlon, gwerth uchel.
Cynnwys y Cwrs:
Cynllunio Marchnata – Sut i adeiladu strategaeth syml ac effeithiol
Adnabod eich Cwsmeriaid – Adnabod a deall eich cynulleidfa ddelfrydol
Marchnata Cynaliadwy – Defnyddio tactegau clyfar i wneud y mwyaf o'ch amser a'ch cyllideb
Pam Dilyn y Cwrs?
Dysgu sut i gael yr elw gorau o'ch ymdrechion marchnata
Cyrraedd a chadw cwsmeriaid gwerth uchel, gwariant uchel
Meithrin hyder wrth ddefnyddio offer a thechnegau marchnata
I bwy mae’n addas?
Perchnogion busnesau bach
Gweithwyr mewn busnesau bach sydd â chyfrifoldebau marchnata
Unrhyw un sy'n newydd i farchnata ac sy'n chwilio am arweiniad ymarferol, di-jargon
Llywio eich Marchnata. Dysgu strategaethau newydd i gyrraedd y cwsmeriaid sydd bwysicaf.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli