Meistroli Adborth: Canllawiau i Arweinwyr sydd am Ysgogi Perfformiad a Thwf
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
4 awr
Meistroli Adborth: Canllawiau i Arweinwyr sydd am Ysgogi Perfformiad a Thwf
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r gweithdy ymarferol hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr, rheolwyr a pherchnogion busnesau sydd eisiau meistroli'r grefft o roi adborth effeithiol. Bydd mynychwyr yn dysgu technegau dilys o gynnig adborth sy'n adeiladol, yn glir, ac yn ymarferol gan feithrin ymddiriedaeth, cymhelliant a pherfformiad o fewn eu timau ar yr un pryd.
Byddwn yn archwilio strategaethau ar gyfer llywio sgyrsiau anodd a chreu diwylliant adborth sy'n cefnogi twf parhaus. P'un a ydych chi'n rheoli tîm neu'n arwain sefydliad, bydd y gweithdy hwn yn eich arfogi â'r sgiliau i wella ymgysylltiad, hybu perfformiad a rhoi hwb i lwyddiant y busnes.
Ydych chi'n gwybod sut i gynnig adborth sy'n cael ei dderbyn yn dda ac sy'n helpu eich tîm i gyrraedd y lefel nesaf? Datgloi potensial eich tîm gyda Gonestrwydd Radical- dull adborth pwerus yn seiliedig ar ofal a pharch. Adeiladu ymddiriedaeth, datrys gwrthdaro, hybu morâl a gwella canlyniadau drwy greu amgylchedd lle mae cyfathrebu agored a gonest yn hybu twf.
Pam Dilyn y Cwrs?
Deall egwyddorion craidd Gonestrwydd Radical a'i effaith ar arweinyddiaeth effeithiol.
Dysgu sut i roi a derbyn adborth mewn ffordd sy'n meithrin ymddiriedaeth ac yn annog twf.
Gallu cymhwyso Gonestrwydd Radical i senarios tîm yn y byd go iawn i wella perfformiad a pherthnasoedd
Gadael gyda strategaethau ymarferol i ymgorffori Gonestrwydd Radical yn eich arferion arwain a rheoli o ddydd i ddydd.
I bwy mae’n addas?
Mae'r gweithdy hwn yn addas i:
Arweinwyr a rheolwyr sy'n gyfrifol am ddatblygiad a pherfformiad tîm
Perchnogion busnesau sydd eisiau meithrin diwylliant llawn ymddiriedaeth sy'n perfformio'n dda
Unrhyw un sydd eisiau cynnig adborth mewn modd mwy hyderus, gyda rhagor o eglurder ac sy'n cael effaith gadarnhaol
Peidiwch â cholli'r cyfle hwn i gryfhau eich arddull arwain ac ysbrydoli gwelliannau perfformiad parhaol trwy adborth ystyrlon ac effeithiol.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli