Creu Ystyr a Sicrhau Cyflawniad trwy Seicoleg Gadarnhaol
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
4 awr. ffi cwrs £75.
Creu Ystyr a Sicrhau Cyflawniad trwy Seicoleg Gadarnhaol
Cyrsiau Byr
Disgrifiad o'r Cwrs
Yn yr hinsawdd brysur llawn straen sydd ohoni heddiw, mae llawer ohonom yn ei chael hi'n anodd canfod hapusrwydd, boddhad ac ystyr. Boed yn bwysau cyson i lwyddo, gofynion bywyd bob dydd, neu'r her o nodi pwrpas, gall lles gwirioneddol deimlo fel pe bai y tu hwnt i'n gafael.
Mae'r hyfforddiant rhyngweithiol 4 awr o hyd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n ceisio torri'n rhydd o batrymau meddwl negyddol, datblygu ymdeimlad o lawenydd, ac adeiladu bywyd llawn ystyr a boddhad.
Mae'n weithdy rhyngweithiol, myfyriol ac ymarferol gyda digon o gyfleoedd i fynychwyr gymhwyso offer seicoleg gadarnhaol i'w bywydau eu hunain.
Pam Dilyn y Cwrs?
Byddwch yn dysgu cyfrinach cymhwyso technegau ac adnoddau seicoleg gadarnhaol i'ch bywyd eich hun i gynyddu hapusrwydd, ystyr a boddhad bywyd cyffredinol.
Nid dim ond seminar ysgogol arall ydy hwn. Byddwch chi'n gadael gyda adnoddau go iawn fydd yn newid eich meddylfryd a'ch arferion ac yn cynyddu eich hapusrwydd a'ch cyflawniad. Fe gewch chi'r pam a'r sut o faes seicoleg gadarnhaol, wedi'i chefnogi gan wyddoniaeth, ac wedi'i dysgu mewn ffordd syml, ymarferol. Byddwn yn symud y tu hwnt i ddamcaniaeth ac yn canolbwyntio ar strategaethau pendant y gallwch eu defnyddio yn eich bywyd personol a phroffesiynol.
I bwy mae’n addas?
Unigolion sy'n teimlo eu bod wedi'u llethu neu'n methu symud ymlaen oherwydd gofynion bywyd ac yn chwilio am newid cadarnhaol a pharhaol.
Y rhai sydd eisiau canfod rhagor o ystyr a phwrpas yn eu bywydau beunyddiol.
Pobl sy'n dymuno gwella gwydnwch, lles meddyliol, a boddhad bywyd cyffredinol.
Y rhai sydd eisiau meithrin gwydnwch, gwella iechyd meddwl, a hybu hapusrwydd cyffredinol.
Unigolion sydd â diddordeb mewn strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella lles yn barhaol.
Dysgwch strategaethau ymarferol, wedi'u seilio ar wyddoniaeth, o faes seicoleg gadarnhaol i wella'ch lles. Dysgwch hefyd nid yn un unig y ‘pam’ ond ‘sut’ hefyd mewn arddull syml, ysbrydoledig y gallwch ei ddefnyddio.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli