Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Micro-Ddysgu - Rhaglen Partner Busnes

Datblygu eich pobl. Cryfhau eich perfformiad. Cynyddu eich gwerth.

Pam ymuno â'r Rhaglen Partner Busnes Micro-Ddysgu?

Mae ein rhaglen teyrngarwch yn gwobrwyo sefydliadau sy'n ymrwymo i ddatblygiad parhaus, nid
hyfforddiant un-tro. Po fwyaf y byddwch chi'n buddsoddi yn eich pobl, po fwyaf fydd y gwerth, yr
hyblygrwydd a'r gefnogaeth strategol y byddwch chi'n eu datgloi.

✔ Cyrsiau byr a hyblyg
✔ Datblygu eich gweithlu mewn modd cost-effeithiol
✔ Hyfforddiant wedi’i gynllunio o amgylch heriau busnes go iawn
✔ Budd clir o'r buddsoddiad

Bandiau Teyrngarwch a Buddion (Gwariant Blynyddol)

Bronze package icon

Efydd - Dechreuwr Dysgu (£750 – £2,499)

Fwyaf addas ar gyfer busnesau bach a chanolig sy'n treialu micro-ddysgu neu'n peilota gweithgareddau datblygu.

  • Gostyngiad teyrngarwch o 5% ar gyrsiau yn y dyfodol
  • Blaenoriaeth wrth archebu
  • Cyfnewid cyrsiau'n hawdd
  • Mewnwelediadau micro-ddysgu bob chwarter
Silver package icon

Arian - Partner Dysgu Parhaus (£2,500 – £7,499)

Fwyaf addas ar gyfer sefydliadau sy'n tyfu ac sy'n datblygu llwybrau dysgu cyson.

  • Gostyngiad o 7.5% ar bob cwrs micro-ddysgu
  • Un cwrs hanner diwrnod am ddim y flwyddyn
  • Blaenoriaeth wrth amserlennu
  • Sgwrs flynyddol i gynllunio sgiliau
Gold package icon

Aur - Partner Dysgu Strategol (£7,500 – £19,999)

Fwyaf addas ar gyfer sefydliadau sy'n ymgorffori dysgu ar draws eu timau.

  • Gostyngiad o 10% ar bob cwrs
  • Un cwrs undydd am ddim y flwyddyn
  • Cyfarfodydd optimeiddio chwarterol
  • Mynediad cynnar i raglenni newydd
  • Gwobrau am atgyfeirio
Platinum package icon

Platinwm - Partner Dysgu Menter (£20,000+)

Fwyaf addas ar gyfer cyflogwyr mawr sydd eisiau creu effaith strategol a hirdymor.⁠

  • Gostyngiad wedi'i gapio o 12.5–15%
  • Un cwrs dau ddiwrnod am ddim y flwyddyn
  • Arweinydd cyfrif dynodedig
  • Adolygiad dysgu sefydliadol blynyddol
  • Grŵp addysgu wedi'i deilwra i'ch busnes
  • Crynodeb effaith wedi'i gydfrandio

Dewisol: Prynu credydau dysgu (SLA) o flaen llaw

Sicrhewch werth ymlaen llaw a threfnu'r hyfforddiant pan fydd ei angen arnoch.

  • £3,000 → £3,300 o gredyd
  • £7,500 → £8,750 o gredyd
  • £20,000 → £24,000 o gredyd

Micro-ddysgu – Bwndeli Enghreifftiol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o lwybrau dysgu a bwndeli cyrsiau i gyd-fynd â phob lefel reoli. Dyma rai enghreifftiau:

Lady giving a presentation

Arweinyddiaeth a Meddwl yn Strategol

Bwndel Nodweddiadol:

  • Adolygiad Strategol o'ch Busnes (un diwrnod)
  • Arwain Timau Llwyddiannus (un diwrnod)
  • Hunanarwain (un diwrnod)

Gwariant Blynyddol: tua £330–£660 yr arweinydd

Budd i'ch Busnes:

✔ Gwneud penderfyniadau gwell
✔ Meithrin hyder a chryfhau arweinyddiaeth
✔ Gwella eglurder sefydliadol

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Arian → Aur

Two people working at a laptop

Datblygu a Rheoli Perfformiad Gweithwyr

Bwndel Nodweddiadol:

  • Datblygu eich Pobl
  • Meistroli Adborth
  • Datblygu Diwylliant Hyfforddi

Gwariant Blynyddol: tua £750–£2,000 y tîm

Budd i'ch Busnes:

✔ Gwella ymgysylltiad
✔ Lefelau cadw staff uwch
✔ Cryfhau’r diwylliant o berfformio

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Aur

Man giving a presentation

Datblygiad Personol a Magu Hyder

Bwndel Nodweddiadol:

  • Hyder a Chyfathrebu
  • Siarad Cyhoeddus
  • Syndrom y Ffugiwr (½ diwrnod)

Gwariant Blynyddol: tua £260–£300 y pen

Budd i'ch Busnes:

✔ Mwy o hyder
✔ Cyfathrebu’n well
✔ Llai o hunanamheuaeth

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Efydd → Arian

People working at a desk

Gwella Prosiectau a Busnes

Bwndel Nodweddiadol:

  • Hanfodion Rheoli Prosiectau (dau ddiwrnod)
  • Technegau Gwella Busnes
  • Cyflawni Newid yn Llwyddiannus

Gwariant Blynyddol: tua £400–£600 y cynrychiolydd

Budd i'ch Busnes:

✔ Gwella effeithlonrwydd
✔ Llai o wastraff
✔ Cyflawni newid yn well

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Aur → Platinwm

Lady smiling

Diwylliant ac Amrywiaeth yn y Gweithle

Bwndel Nodweddiadol:

  • Gêm y Cenedlaethau
  • Ffynnu gyda'n Gilydd
  • Yn Barod i Arloesi?

Gwariant Blynyddol: tua £350–£500 y grŵp

Budd i'ch Busnes:

✔ Diwylliant cynhwysol
✔ Gwella llesiant
✔ Arloesi a chydweithio

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Arian → Aur

Man reading a book

Datblygu'r Meddylfryd a'r Gallu i Hunanadfyfyrio

Bwndel Nodweddiadol:

  • Grym Adfyfyrio
  • Seicoleg Gadarnhaol

Gwariant Blynyddol: tua £185–£220 y pen

Budd i'ch Busnes:

✔ Gwydnwch
✔ Cymhelliant
✔ Perfformiad cynaliadwy

Haen Teyrngarwch Delfrydol: Efydd → Arian