Ffynnu Gyda'n Gilydd: Adeiladu Gwydnwch a Llesiant mewn Gweithle Cynhwysol
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
- Dull astudio:Rhan amser
Ffynnu Gyda'n Gilydd: Adeiladu Gwydnwch a Llesiant mewn Gweithle CynhwysolCyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Pam dilyn y cwrs?
Mae'r sesiwn ddiddorol a rhyngweithiol hon yn archwilio'r cysylltiad hanfodol rhwng llesiant gweithwyr, gwydnwch, ac amrywiaeth yn y gweithle, gan ddefnyddio'r model 'Gofynion Swydd - Adnoddau' fel fframwaith sylfaenol.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu am ddulliau ymarferol ar gyfer rheoli straen, meithrin gwydnwch, a gwella llesiant trwy gydbwyso gofynion eu swydd â'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol. Mae'r sesiwn hefyd yn tynnu sylw at sut mae cynhwysiant, amrywiaeth a chydraddoldeb yn dylanwadu ar iechyd meddwl ac emosiynol, a sut y gall sefydliadau greu amgylcheddau cefnogol sy'n grymuso pob gweithiwr ac yn eu galluogi i ffynnu.
Drwy ddeall y deinameg rhwng gofynion swyddi ac adnoddau, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i feithrin diwylliant gweithle sy'n hybu ymgysylltiad, yn lleihau gorweithio, ac yn gyrru perfformiad - gan gyfrannu at weithlu iachach a mwy cynhyrchiol.
I bwy mae’n addas?
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr, arweinwyr tîm, gweithwyr ym maes Adnoddau Dynol, a gweithwyr ar bob lefel sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo llesiant, gwydnwch a chynwysoldeb yn y gweithle. Y rhai a fyddai’n elwa fwyaf ydy:
- Arweinwyr a rheolwyr sydd eisiau cynnig gwell cefnogaeth iechyd meddwl ac emosiynol i'w timau
- Gweithwyr ym maes Adnoddau Dynol a maes Amrywiaeth, Tegwch a Chynhwysiant sy'n ceisio integreiddio strategaethau llesiant i ddiwylliant sefydliadol
- Gweithwyr mewn swyddi neu ddiwydiannau lle mae llawer o bwysau, lle mae straen a gorweithio'n gyffredin
- Unrhyw un sydd â diddordeb mewn deall y cysylltiad rhwng amrywiaeth, cynhwysiant a gwydnwch yn y gweithle
- Gweithwyr hybu newid sy'n gweithio i ddatblygu amgylchedd sy'n ddiogel yn seicolegol, yn gynhwysol ac yn perfformio'n dda
Cofrestrwch heddiw a chamu tuag at arwain gweithlu iachach a mwy cynhyrchiol!
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli