Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 diwrnod
Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer arweinwyr a goruchwylwyr lefel gyntaf sy'n gyfrifol am ddarparu safonau uchel o wasanaeth i gwsmeriaid o fewn eu sefydliad. Mae'n archwilio elfennau allweddol sicrhau profiad eithriadol i gwsmeriaid, effaith gwasanaeth gwael, a dulliau ymarferol ar gyfer goresgyn rhwystrau mewnol cyffredin.
Bydd cynrychiolwyr yn cwblhau llyfr gwaith strwythuredig ac yn dysgu am adnoddau a thechnegau ymarferol i gyd-fynd â strategaeth gwasanaeth i gwsmeriaid eu cwmni.
Cynnwys y Cwrs:
Beth yw Profiad Cwsmeriaid – Deall y diffiniad a'r pwysigrwydd
Pam ei fod yn Bwysig – Gwerth busnes gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid
Canlyniadau Gwasanaeth Gwael – Archwilio’r effaith ar y sefydliad
Rhwystrau i Ragoriaeth – Nodi a goresgyn heriau mewnol
Y Pum Cam i Wasanaeth Rhagorol – Fframwaith ar gyfer llwyddiant a hyfforddi eraill
Technegau Adfer Gwasanaeth – Defnyddio modelau datrys problemau i reoli cwynion a materion
Llyfr Gwaith Gwasanaeth i Gwsmeriaid – Canllaw ymarferol i'ch cefnogi i rhoi'r hyn rydych yn ei ddysgu ar waith
Pam Dilyn y Cwrs?
Dysgu strategaethau ac adnoddau ymarferol ar gyfer gwella profiad cwsmeriaid
Deall sut i alinio'ch tîm â safonau gwasanaeth i gwsmeriaid eich cwmni
Meithrin hyder i hyfforddi eraill ac atgyfnerthu ymddygiadau'r gwasanaeth
Gadael gyda llyfr gwaith cynhwysfawr i'ch gefnogi wrth eich gwaith
I bwy mae’n addas?
Byddai'n addas ar gyfer:
Arweinwyr a goruchwylwyr lefel gyntaf
Aelodau'r tîm sy'n gyfrifol am gyflawni safonau gwasanaeth i gwsmeriaid
Unrhyw un sy'n ymwneud â hyfforddi neu gefnogi staff rheng flaen
Cofleidio newid. Gwneud gwahaniaeth.
Grymuswch eich tîm gyda'r adnoddau i ddarparu profiadau rhagorol i gwsmeriaid yn gyson.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli