Paratoi ar gyfer Llwyddo; Cymhorthion Defnyddiol
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
-
Dull astudio:Rhan amser
-
Hyd:
1 diwrnod
ffi cwrs £110
Paratoi ar gyfer Llwyddo; Cymhorthion Defnyddiol
Cyrsiau Byr
Ffoniwch Busnes@LlandrilloMenai heddiw ar 08445 460 460 neu anfon e-bost i busnes@gllm.ac.uk.
Disgrifiad o'r Cwrs
Ar ddechrau prosiect cwbl newydd, gall fod yn anodd rhagweld y llwybr at ganlyniadau llwyddiannus, mewn rhai achosion gall ymddangos yn eithaf aneglur.
Ydych chi'n glir ynglŷn â'r nodau, y cwmpas a'r amcanion? Os yw'r rhain yn amwys, heb eu datblygu, neu'n amhendant, efallai y byddwch chi'n dilyn llwybr y tybiwch chi ei fod yn gywir ar gyfer y prosiect, dim ond i orffen yn y man anghywir ... neu gallech beidio â chyrraedd y terfyn o gwbl.
Mae'r cwrs arddull hyfforddi hwn yn helpu i roi dealltwriaeth o werth edrych yn ofalus ar eich dull, ac ar argaeledd, dulliau casglu, a dulliau dehongli'r wybodaeth sy'n arwain cwrs eich prosiect. Yn seiliedig ar fewnbynnau o strategaeth, uchelgais y rhanddeiliaid a gofynion y farchnad, mae hwn yn arf hanfodol i lywio prosiectau'n llwyddiannus.
Pam Dilyn y Cwrs?
Mewnwelediad arweinyddiaeth i werth strategol mewnbynnau gwybodaeth o fewn prosiectau llwyddiannus; safbwyntiau ar gynyddu siawns llwyddiant prosiect; dimensiwn hanfodol o lywio prosiect.
I bwy mae’n addas?
Mae'r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy'n ymwneud â phrosiectau strategol ac sydd angen egluro nodau, cwmpas, ac amcanion, a datblygu mewnbynnau hanfodol ar gyfer llywio prosiectau, ac a fyddai'n elwa o amgylchedd hyfforddi.
Rhoi dealltwriaeth o werth - a'r angen am - wybodaeth sy'n cefnogi llywio'r prosiect yn llwyddiannus.
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Cyrsiau Byr
Lefel:
N/A
Maes rhaglen:
- Busnes a Rheoli