Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Datblygu eich Pobl: Ailsgilio? ⁠Uwchsgilio? ⁠Rhyddhau eu potensial!

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Busnes@LlandrilloMenai, Parc Busnes Llanelwy
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    1 diwrnod.

    ffi cwrs £110.

Cofrestrwch
×

Datblygu eich Pobl: Ailsgilio? ⁠Uwchsgilio? ⁠Rhyddhau eu potensial!

Cyrsiau Byr

Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 24/09/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £110.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £110.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 19/11/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £110.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £110.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 17/12/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £110.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £110.00
Busnes@St Asaph
Cwrs SC: 22/10/25, 09:00 yb
Ffi dysgu:   £110.00  |  Ffi arholiad:   £0.00  |  Cyfanswm: £110.00

Disgrifiad o'r Cwrs

Yn aml, caiff rheoli perfformiad ei anwybyddu neu ei frysio, gyda gwerthusiadau’n cyrraedd yn rhy hwyr i fynd i’r afael â heriau sy'n ymwneud â phobl sy’n codi dro ar ôl tro — gan arwain at weithwyr digymhelliant neu'n waeth, cyfraddau gadael uchel a diangen.

Bydd y cwrs hwn yn eich arwain drwy'r broses rheoli perfformiad: beth yw rheoli perfformiad, ble mae'n berthnasol, a sut i'w ddefnyddio'n effeithiol i uchafu'r canlyniadau i'r sefydliad.

Drwy weithredu fframwaith rheoli perfformiad cadarn, byddwch yn dysgu sut i adnabod potensial gweithwyr, cefnogi datblygiad eu gyrfa, ac ymdrin â heriau cynllunio olyniaeth cyn iddynt fynd yn broblemau difrifol.

Mae rheoli perfformiad effeithiol o fudd i bawb — mae'n sefyllfa lle mae unigolion a'r sefydliad ar eu hennill.

⁠Pam dilyn y cwrs?

  • Deall sut i weithredu proses rheoli perfformiad fodern ac effeithiol

  • Meithrin hyder wrth gynnal arfarniadau ystyrlon sy'n ysgogi gwelliant a thwf

  • Canfod y cysylltiad rhwng rheoli perfformiad yn effeithiol a chadw gweithwyr, ymgysylltu a chynhyrchiant

  • Dysgu sut i wneud penderfyniadau gwybodus am uwchsgilio neu ailsgilio aelodau'r tîm i ddiogelu eich gweithlu at y dyfodol

I bwy mae’n addas?

Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer uwch reolwyr a rheolwyr canol sy'n gyfrifol am ddatblygu doniau, uchafu perfformiad, a sicrhau effeithiolrwydd hirdymor y gweithlu.

Sicrhau bod eich gweithlu yn cyd-fynd â nodau strategol eich sefydliad. Cadw, datblygu a grymuso eich pobl.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Cyrsiau Byr

Lefel: N/A

Maes rhaglen:

  • Busnes a Rheoli

Busnes a Rheoli

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Busnes a Rheoli

Myfyrwyr mewn llyfrgell
Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date