Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos (18 mis)


Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Bydd dysgwyr sy'n cwblhau Prentisiaeth yn cael y cyfle i gyflawni rôl technegydd ewinedd. ⁠ Gall eu gyrfaoedd fynd a nhw i amrywiaeth o leoliadau y tu hwnt i salonau ewinedd arbenigol, gan gynnwys cartrefi gofal, salonau harddwch, bariau ewinedd, sba a chlybiau iechyd, yn y wlad hon a thramor. Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant Gwasanaethau Ewinedd drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Mae'r llwybr hwn yn datblygu sgiliau i lefel sylfaen a chyflogaeth fel Technegydd Ewinedd.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ ⁠neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau

Nid yw dysgwyr cyrsiau gwasanaethau ewinedd yn mynychu'r coleg ar gyfer gweithdai ymarferol nac ar gyfer y theori. ⁠Bydd angen i'r salon ddarparu'r holl hyfforddiant technegol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant yn salon y coleg yn ogystal â dod â chleientiaid i mewn pan fo angen. Bydd Asesydd yn gyfrifol am yr holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

  • I raglen brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwasanaethau Ewinedd.
  • I mewn i gyflogaeth fel technegydd ewinedd iau
  • Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch.
  • Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau perthnasol eraill fel Therapi Harddwch neu Drin Gwallt.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r cwrs ymarferol hwn wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa mewn Gwasanaethau Ewinedd, ac mae'n datblygu sgiliau hyd at y lefel sylfaen ac yn arwain at gyflogaeth fel Technegydd Ewinedd Iau. Byddai hyn yn golygu cynnal triniaethau gan gynnwys trin dwylo, trin traed, gwasanaethau celf ewinedd a gwelliannau ewinedd gan ddefnyddio acrylig. Mae cyrsiau byr ychwanegol ar gael fel ychwanegiadau at y brentisiaeth hon.

Gwybodaeth am yr Unedau

Gwasanaethau Ewinedd

I gyflawni'r cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr gwblhau 8 uned orfodol gwerth cyfanswm o 40 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon = 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal effeithlonrwydd wrth eich gwaith = 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid = 6 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Sicrhau cyfrifoldeb am gamau gweithredu er mwyn lleihau'r risg i Iechyd a Diogelwch = 4 credyd (1 credyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau trin dwylo = 6 chredyd (3 chredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Cynnal triniaethau trin traed = 6 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau celf ewinedd = 4 credyd (3 chredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Cymhwyso a chynnal gwelliannau i ewinedd gan greu gorffeniad naturiol = 8 credyd (6 chymhwysedd 2 gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Cyfathrebu Lefel 1
  • Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Llythrennedd Digidol Lefel 1

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch