Cyflwyniad i faes Gwallt a Harddwch
Manylion Allweddol
- Ar gael yn:Bangor - Parc Menai, Llandrillo-yn-Rhos, Y Rhyl, Dolgellau
- Dull astudio:Llawn Amser
- Hyd:
Un flwyddyn. 3 diwrnod yr wythnos am 35 wythnos.
Cyflwyniad i faes Gwallt a HarddwchDisgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Dechreuwch Eich Gyrfa ym maes Gwallt a Harddwch!
Eisiau cymryd eich cam cyntaf i fyd cyffrous trin gwallt a harddwch? Ein cwrs Cychwyn Addysg Bellach (AB) ydy'r lle perffaith i ddechrau.
Mae hwn yn gwrs ymarferol, lle byddwch yn ennill profiad go iawn yn y diwydiant drwy weithio ar flociau pen ac ar gleientiaid go iawn. Bydd hyn yn eich helpu i feithrin hyder a sgiliau ymarferol o'r diwrnod cyntaf. Byddwch yn dysgu ystod eang o dechnegau craidd, gan gynnwys siampŵio, sychu gwallt, gwneud triniaethau ar ewinedd y dwylo a'r traed, triniaethau wyneb, a llawer mwy.
Rydym hefyd yn eich paratoi ar gyfer gweithle y tu hwnt i'r salon. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfweliad, ymddygiad proffesiynol, a pharatoi ar gyfer swydd. Bydd gennych yr arfau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn hyderus i fyd gwaith neu i astudio ymhellach.
Er mwyn cefnogi eich llwyddiant cyffredinol, mae sgiliau Mathemateg a Chyfathrebu yn cael eu haddysgu o fewn y cwricwlwm. Bydd hyn yn eich helpu i gryfhau sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.
Mae pob elfen o'r cwrs yn orfodol, gan sicrhau eich bod yn derbyn profiad dysgu cyflawn a gwerthfawr.
Gofynion mynediad
2 x TGAU gradd G.
Cyflwyniad
Gwaith ymarferol, gwaith theori, aseiniadau.
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
- Sesiynau ymarferol
- Aseiniad
- Arholiadau (Saesneg a Mathemateg)
Dilyniant
- Lefel 1 mewn Trin Gwallt
- Lefel 1 mewn Therapi Harddwch
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol, Oedolion a Rhan-amser
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
Trin Gwallt a Therapi Harddwch