Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 blwyddyn

Gwnewch gais
×

Therapi Harddwch Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Dolgellau
Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn therapydd harddwch? Hoffech chi ennill amrywiaeth o sgiliau proffesiynol yn y maes hwn?

Mae'r cwrs hwn yn addas i'r sawl sydd wedi gadael yr ysgol neu fyfyrwyr aeddfed sy'n awyddus i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gael swydd fel therapydd harddwch proffesiynol.

Yn ystod y cwrs byddwch yn gwella eich sgiliau therapi harddwch gan wneud triniaethau megis cwyro ac arlliwio'r aeliau. Bydd y sgiliau hyn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth neu astudio ymhellach.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 2 TGAU gradd C neu uwch, ac 1 TGAU gradd D/E yn Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Bydd angen hefyd i chi fod wedi cael presenoldeb o 86% yn eich blwyddyn astudio flaenorol.

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Cyflwyniad Ymarferol
  • Sesiynau Theori
  • Gweithdai
  • Hyfforddiant Masnachol mewn Salon
  • MOODLE

Byddwch hefyd yn mynd ar brofiad gwaith fel rhan o'r rhaglen.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arsylwi
  • Asesiadau ar-lein

Dilyniant

Mae'r cwrs yn rhoi cymhwyster a set gwerthfawr o sgiliau i'ch helpu symud ymlaen i swydd neu addysg bellach.

Byddai modd i chi fynd yn eich blaen i astudio nifer o gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys:

  • Therapi Harddwch Lefel 3
  • Therapi Harddwch (Ffasiwn, Theatr, Cyfryngau, Gwallt a Cholur) Lefel 3
  • Therapi Harddwch (Tylino) Lefel 3
  • Trin Gwallt Lefel 2
  • Therapi Sba Lefel 3
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Therapi Harddwch
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Therapi Harddwch

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Bangor
  • Dolgellau

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch