Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Therapi Harddwch Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos (18 mis)


Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Therapi Harddwch Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant harddwch drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Yn dibynnu ar y llwybr a ddilynir a’r lefel a gyflawnwyd, bydd dysgwyr sy’n cwblhau prentisiaeth yn cael swyddi fel: Therapyddion harddwch iau, trinwyr dwylo neu ymgynghorwyr coluro a gofalu am y croen (Prentisiaeth Sylfaen)

Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys salonau harddwch, ysbytai, cartrefi gofal, llongau mordaith, sbas a chlybiau iechyd, neu weithio'n llawrydd.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Harddwch yn ddymunol.
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ ⁠⁠neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol ⁠.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau

⁠Nid yw dysgwyr y cyrsiau i therapyddion harddwch a thechnegwyr ewinedd yn dod i'r coleg ar gyfer gweithdai ymarferol a sesiynau theori. ⁠Bydd angen i'r salon ddarparu'r holl hyfforddiant technegol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant yn salon y coleg yn ogystal â dod â chleientiaid i mewn pan fo angen. Bydd Asesydd yn gyfrifol am yr holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

  • I'r rhaglen brentisiaeth Lefel 3 mewn Therapi Harddwch.
  • I gyflogaeth fel therapydd harddwch iau, technegydd ewinedd iau neu swyddi eraill ym maes harddwch, e.e. artist coluro iau neu ymgynghorydd harddwch.
  • Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch.
  • Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau perthnasol eraill fel Triniaethau Ewinedd neu Drin Gwallt.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r cwrs ymarferol hwn wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa mewn Therapi Harddwch, ac mae'n datblygu sgiliau hyd at y lefel sylfaen ac yn arwain at gyflogaeth fel Therapydd Harddwch Iau.

Gwybodaeth am yr Unedau

Llwybr 1 - Therapi Harddwch (Llwybr Cyffredinol)

Byddai Therapydd Harddwch Iau yn cael ei hyfforddi i ddarparu triniaethau sy'n cynnwys cwyro, trin dwylo, trin traed, trin wynebau a choluro yn ogystal â chynorthwyo gyda gweithrediadau sba.

I gyflawni'r cymhwyster llawn, rhaid i'r dysgwyr gwblhau 8 uned orfodol gwerth cyfanswm o 45 credyd ac unedau dewisol gwerth hyd at o leiaf 9 credyd i roi cyfanswm cyffredinol o 54 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Sicrhau cyfrifoldeb am gamau gweithredu er mwyn lleihau'r risg i Iechyd a Diogelwch - 4 credyd (1 credyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid - 6 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal effeithlonrwydd wrth eich gwaith - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau gofal croen i'r wyneb - 8 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Gwella ymddangosiad aeliau ac amrannau - 5 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Cynnal triniaethau cwyro - 7 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau trin dwylo - 6 chredyd (3 chredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Cynnal triniaethau trin traed - 6 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Tyllu clustiau - 2 gredyd (1 credyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Coluro - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Gwella ymddangosiad gan ddefnyddio cuddliw croen - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Cynorthwyo gyda gweithrediadau sba - 4 credyd (3 chredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Darparu Triniaethau Edafu - 4 credyd (2 gredyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

Llwybr 2 - Therapi Harddwch (Llwybr Coluro)

Byddai Ymgynghorydd Harddwch Iau yn cael ei hyfforddi i ddarparu triniaethau sy'n gofalu am y croen a defnyddio colur. Fel arfer bydd yn gweithio i wneuthurwr cynnyrch gan gynnig gwasanaethau ymgynghori, a hyrwyddo a gwerthu cynnyrch. Bydd Ymgynghorydd Harddwch Iau yn cael ei hyfforddi i ddarparu triniaethau gofalu am y croen, coluro, defnyddio cuddliw croen a gwella ymddangosiad aeliau ac amrannau.

I gyflawni'r cymhwyster llawn, rhaid i'r dysgwyr gwblhau 7 uned orfodol gwerth cyfanswm o 39 credyd ac unedau dewisol gwerth hyd at o leiaf 5 credyd i roi cyfanswm cyffredinol o 44 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Sicrhau cyfrifoldeb am gamau gweithredu er mwyn lleihau'r risg i Iechyd a Diogelwch - 4 credyd (1 credyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Hyrwyddo gwasanaethau neu gynhyrchion ychwanegol i gleientiaid - 6 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal effeithlonrwydd wrth eich gwaith - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau gofal croen i'r wyneb - 8 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Gwella ymddangosiad aeliau ac amrannau - 5 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Coluro - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Cyfarwyddo cleientiaid ar ddefnyddio cynhyrchion gofal croen a cholur - 7 credyd (5 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Tyllu clustiau - 2 gredyd (1 credyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Gwella ymddangosiad gan ddefnyddio cuddliw croen - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Cynorthwyo gyda gweithrediadau sba - 4 credyd (3 chredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Darparu Triniaethau Edafu - 4 credyd (2 gredyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Lefel 1 Cyfathrebu
  • Lefel 1 Cymhwyso Rhif
  • Lefel 1 Llythrennedd Digidol

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch