Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi’n gweithio mewn salon trin gwallt ar hyn o bryd? Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa a'ch sgiliau technegol? Mae’r cwrs prentisiaeth hwn yn eich helpu i symud ymlaen i swyddi trin gwallt o’r radd flaenaf, gan gynnwys swyddi rheoli, gwaith fel arddangoswr, swyddi mewn salonau o'r radd flaenaf a swyddi ar longau mordaith. Mae hefyd yn un o'r unig gymwysterau derbyniol ar gyfer gweithio dramor, sy'n rhoi hyd yn oed mwy o opsiynau ar gyfer llwyddiant i chi.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 2 perthnasol, neu o wybodaeth broffesiynol bresennol. Rhaid i chi fod yn gweithio yn y diwydiant.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i chi fod yn gweithio mewn salon trin gwallt. Os nad ydych yn gweithio mewn salon ar hyn o bryd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Dylai fod gennych gymhwyster Trin Gwallt Lefel 2 neu wybodaeth a phrofiad proffesiynol cyfatebol
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠ ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle ar y cwrs yn amodol ar gwblhau cyfweliad boddhaol a bodloni gofynion cwsmeriaid

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Salonau go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grŵp

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer pob uned
  • Aseiniadau a thasgau
  • Profion amlddewis yn cwmpasu'r wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein)
  • Tasgau a phrofion theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Bydd y cymhwyster Lefel 3 yn eich helpu i symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir tuag at yrfa heriol. Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli. Bydd gennych amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gweithio fel steilydd, mewn salonau ledled y DU ac mewn gwledydd eraill.

Os ydych am symud ymlaen ymhellach mewn addysg, efallai y bydd gennych y dewis o fynd ymlaen i Addysg Uwch naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser. Gallech ymgymryd â chymhwyster Proffesiynol Uwch City and Guilds yng Ngrŵp Llandrillo Menai, a fyddai'n gwella eich sgiliau a'ch cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach ac yn rhoi cymhwyster Lefel 4 neu uwch i chi.

Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch. Mae'n bosibl symud ymlaen i Lwybrau dilyniant ym maes Barbro a Therapi Harddwch.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r cymhwyster NVQ Lefel 3 hwn yn addas ar gyfer y rhai a hoffai ddilyn gyrfa ym maes Trin Gwallt ac yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod i weithio dramor sy'n ei gwneud hi'n bosib i chi arbenigo yn eich maes ac anelu am y swyddi trin gwallt gorau sydd ar gael.

Bydd y cwrs yn datblygu'ch sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth sylfaenol o faes Trin Gwallt. Mae'r cymhwyster yn cynnwys pedwar uned orfodol a phum uned ddewisol ac yn cynnwys ymgynghori â chleientiaid, steilio gwallt (yn cynnwys gwallt hir), rhedeg Salon yn effeithiol, Iechyd a Diogelwch yn y Salon.

Sgiliau arbenigol ym maes trin gwallt, tonni gwallt, lliwio a chywiro gwaith lliwio.

Byddwch hefyd yn cwblhau unedau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a Llythrennedd Digidol yn ogystal â tharo golwg ar hawliau a chyfrifoldebau cyflogwyr.

Gwybodaeth am yr Unedau

I gyflawni'r cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr gwblhau 4 uned orfodol gwerth cyfanswm o 43 credyd ac unedau dewisol hyd at o leiaf 25 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 64 credyd

UNEDAU GORFODOL

  • Steilio a thrin gwallt yn greadigol 7 Credyd (3 credyd Gwybodaeth a 4 credyd Cymhwysedd)
  • Torri gwallt yn greadigol gan ddefnyddio cyfuniad o dechnegau gwaith barbwr - 14 credyd (8 credyd Cymhwysedd 6 credyd Gwybodaeth)
  • Lliwio a goleuo gwallt yn greadigol 14 Credyd (9 credyd Gwybodaeth a 5 credyd Cymhwysedd)
  • Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid - 8 credyd (3 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Darparu amrywiaeth o wasanaethau ymlacio - 9 credyd (5 credyd Cymhwysedd 4 credyd Gwybodaeth)
  • Gwasanaethau cywiro lliw gwallt 15 credyd (7 credyd Cymhwysedd 8 credyd Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau ymgynghori â chleientiaid - 8 Credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Creu amrywiaeth o effeithiau pyrmio 10 credyd (5 credyd Gwybodaeth a 5 credyd Cymhwysedd)
  • Datblygu, gwella a gwerthuso eich sgiliau trin gwallt creadigol 9 Credyd (5 credyd Gwybodaeth, 4 credyd Cymhwysedd)
  • Darparu triniaethau gwallt a chroen pen arbenigol - 12 credyd (4 credyd Cymhwysedd 8 credyd Gwybodaeth)
  • Cyfrannu at gynllunio a rhoi gweithgareddau hyrwyddo ar waith - 10 credyd (3 credyd Cymhwysedd a 7 credyd Gwybodaeth)
  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 7 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 3 credyd Gwybodaeth)
  • Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (5 credyd Gwybodaeth a 7 credyd Cymhwysedd)
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Torri steil gwallt dynion - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Trin Rhifau Lefel 2
  • Llythrennedd Digidol Lefel 1

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch