Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Uwch - Trin Gwallt Lefel 4

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-Amser: 78 wythnos (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth Uwch - Trin Gwallt Lefel 4

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae’r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr proffesiynol seiliedig ar waith i hyfforddi uwch-ymarferwyr a rheolwyr yn y sector trin gwallt a harddwch, yn benodol mewn rolau trin gwallt. Gallai dysgwyr ddod o amrywiaeth o gefndiroedd gydag amrywiaeth o gymwysterau neu brofiad cyfatebol ond yn bendant byddent yn angerddol am weithio yn y sector trin gwallt.

Efallai bod dysgwyr eisoes yn gweithio mewn rôl trin gwallt lefel 3 ac yn dymuno datblygu yn eu gyrfa i rolau uwch a/neu waith rheoli neu ddatblygu eu dealltwriaeth a’u hymarfer yn y sector ymhellach er mwyn gwella’r gwasanaethau a gynigir. Gallent hefyd gael eu recriwtio o sectorau cysylltiedig mewn Gwaith Barbwr lefel 3.

Bydd dysgwyr sy’n cwblhau’r rhaglen brentisiaeth lefel uwch hon eisoes yn gweithio fel uwch-steilyddion, uwch-ymarferwyr, rheolwyr salonau neu gyfarwyddwyr. Gallent fod yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys salonau trin gwallt, sbas neu gyrchfannau gwyliau.

Gofynion mynediad

  • Rhaid i chi fod yn gyflogedig ar hyn o bryd mewn salon trin gwallt ac yn o leiaf 19 oed. Os nad ydych yn gweithio mewn salon ar hyn o bryd, gallwn eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Dylai fod gennych gymhwyster trin gwallt Lefel 3 neu wybodaeth a phrofiad proffesiynol cyfatebol ⁠ ⁠
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig, yn barod i ddysgu a bod ag angerdd am y diwydiant
  • Cyflwyniad personol priodol gan gynnwys dillad, gwallt a hylendid personol
  • Sgiliau ymarferol, trefniadol a chymdeithasol gyda sylw i fanylion a glanweithdra
  • Lefel uchel o ddeheurwydd a chydsymud
  • Hyfedredd wrth ddefnyddio TGCh
  • Bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad a chwblhau aseiniad prawf/tasg neu gyflwyniad

Mae pob lle ar y cwrs yn amodol ar gwblhau cyfweliad boddhaol a bodloni gofynion cwsmeriaid

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa o'r sesiynau theori, a all fod yn rhai un-i-un, yn yr ystafell ddosbarth a/neu ar-lein.⁠⁠

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Bydd yn rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg cyfleus, os oes angen.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer pob uned
  • Aseiniadau a thasgau
  • Profion amlddewis yn cwmpasu'r wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein)
  • Tasgau a phrofion theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau yn y gweithle

Dilyniant

Gall dysgwyr symud ymlaen i gael dyrchafiad mewn salonau, naill ai o fewn grwpiau salon neu gyda chyflogwyr newydd. Gallent hefyd gymryd rhan mewn masnach freinio, a dod yn gyflogwyr eu hunain.

Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli. Bydd gennych amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gweithio fel steilydd, mewn salonau ledled y DU ac mewn gwledydd eraill.

Ar ôl cwblhau'r fframwaith hwn, gall dysgwyr hefyd symud ymlaen â'u hastudiaethau i ennill cymwysterau rheoli lefel uwch. Bydd eraill yn magu hyder creadigol i weithio ar lwyfan neu i hyfforddi, neu’n cael gwaith fel rheolwr salon, cyfarwyddwr creadigol, aseswr salon neu arweinydd tîm.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Bydd y cymhwyster Lefel 4 yn galluogi dysgwyr i symud ymlaen o'u prentisiaeth i ddilyn amrywiaeth o lwybrau gyrfaol gwahanol, gan roi cyfleoedd i ddod yn arbenigwr yn y diwydiant a gweithio yn un o'r gyrfaoedd gorau sy'n agored i driniwr gwallt.⁠

Mae Uwch-ymarferwyr/Steilyddion yn rhedeg salon i safon uchel, gan gynnwys agweddau'n ymwneud â gofal cwsmer, technegau ffasiwn cyfoes, gwaith o fewn tîm ac yn unigol. Yn meddu ar y gallu i gynghori ac arwain aelodau o'r tîm e.e. prentisiaid, aelodau staff iau. Cadw at bob agwedd ar Iechyd a Diogelwch. Perfformio pob gwasanaeth gwallt; cyrraedd nodau gwasanaeth a manwerthu. Yn meddu ar y gallu i gadw a thyfu sylfaen dda o gleientiaid, bod yn gyfredol ac yn flaengar. Goruchwylio'r tîm o steilyddion, monitro ansawdd y triniaethau a gynigir a monitro gweithgaredd cleientiaid

Llwybr 1: Trin Gwallt – Uwch-ymarferydd / Uwch-steilydd (Diploma Lefel 4 mewn Technegau Uwch ac Ymarfer Rheoli mewn Trin Gwallt)

Gwybodaeth am yr Uned

I gyflawni’r cymhwyster llawn, rhaid i ymgeiswyr gyflawni 12 credyd o’r uned orfodol, lleiafswm o 31 credyd o unedau Grŵp A a 25 credyd pellach o unedau dewisol Grŵp C.

UNED ORFODOL

Rheoli ansawdd gofal cleientiaid yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 6 credyd)

UNEDAU DEWISOL (Grŵp A)

  • Cywiro lliw gwallt (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 6 credyd)
  • Rheoli creu casgliad o steiliau gwallt (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Gwasanaethau gwallt a chroen pen arbenigol (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 4 credyd)
  • Cemeg gwallt a chynhyrchion harddwch (gwybodaeth - 14 credyd)

UNEDAU DEWISOL (Grŵp C)

  • Egwyddorion ffotograffiaeth stiwdio (gwybodaeth - 8 credyd)
  • Ffotograffiaeth stiwdio (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli salon (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Rheoli gwerthiant yn y sector gwallt a harddwch (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 3 credyd)
  • Cysylltiadau cyhoeddus yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 5 credyd, gwybodaeth - 5 credyd)
  • Marchnata yn y sector trin gwallt a harddwch (cymhwysedd - 4 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)
  • Rheoli iechyd, diogelwch a diogeled yn y salon (cymhwysedd - 6 credyd, gwybodaeth - 2 gredyd)

Unedau Sgiliau Hanfodol Ychwanegol: (Gellir defnyddio dirprwy os oes gennym brawf o gyflawniad blaenorol)

  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Trin Rhifau Lefel 2⁠

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch