Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwaith Barbwr Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant gwaith barbwr drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Mae gwaith barbwr yn unigryw yn y sector gwallt a harddwch, gan ei fod yn cyfuno sgiliau traddodiadol fel torri gwallt dynion gyda thechnegau arbenigol newydd fel pylu croen, creu llinellau a phatrymau, lliwio a phyrmio.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol
  • Rhaid i chi gael cyflogwr a all fodloni meini prawf yr NVQ neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr ⁠ ⁠
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Darperir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Gwersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Salonau go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grŵp

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Portffolio electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned⁠
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Mae'r cwrs yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ac yn codi eich sgiliau gwaith barbwr i lefel uwch. ⁠ ⁠

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio'n rhan-amser a symud ymlaen i'r cwrs prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Gwaith Barbwr ⁠sydd hefyd yn cael ei gynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai. ⁠ ⁠

Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch. Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau Trin Gwallt eraill hefyd. ⁠ ⁠ ⁠

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa yn y diwydiant Trin Gwallt.

Cwrs ymarferol yw hwn a fydd yn eich galluogi i ddod yn steilydd. Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt Merched a Dynion gan gynnwys torri, pyrmio, lliwio, gosod, chwythsychu, trin gwallt hir, triniaethau i wallt/croen y pen, ymgynghori â chleientiaid, dyletswyddau derbynfa, ac iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes Trin Gwallt.

Gwybodaeth am yr Unedau

I gyflawni'r cymhwyster llawn, rhaid i'r dysgwyr gwblhau 7 uned orfodol gwerth cyfanswm o 44 credyd ac unedau dewisol gwerth hyd at o leiaf 9 credyd i roi cyfanswm cyffredinol o 53 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Defnyddio technegau sylfaenol i dorri gwallt dynion - 12 credyd (7 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Defnyddio technegau sylfaenol i dorri a siapio blew wyneb - 5 credyd (2 gredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Sychu a gorffen gwallt dynion - 5 credyd (3 Chredyd Cymhwysedd a 2 Gredyd Gwybodaeth)
  • Creu amlinelliadau a manylion sylfaenol mewn gwallt - 6 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd a 4 credyd Gwybodaeth)
  • Cynghori cleientiaid ac ymgynghori â chleientiaid - 8 credyd (3 chredyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Siampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen - 5 credyd (3 chredyd cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Datblygu a chynnal effeithlonrwydd wrth eich gwaith - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Ymlacio gwallt - 9 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Cynorthwyo gyda thriniaethau eillio - 5 credyd (2 gredyd Cymhwysedd a 3 chredyd Gwybodaeth)
  • Lliwio a goleuo gwallt dynion - 14 credyd (6 chredyd Cymhwysedd ac 8 credyd Gwybodaeth)
  • Pyrmio a niwtraleiddio gwallt - 10 credyd (5 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Plethu a throelli gwallt - 5 credyd (2 gredyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)
  • Ychwanegu gwallt dros dro i wella steil - 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Lefel 1 Cyfathrebu
  • Lefel 1 Cymhwyso Rhif
  • Lefel 1 Llythrennedd Digidol

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch