Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Therapi Harddwch Lefel 3 (Tylino)

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos (18 mis)


Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Therapi Harddwch Lefel 3 (Tylino)

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r fframwaith prentisiaeth hwn, y cytunwyd arno'n genedlaethol, yn darparu llwybr seiliedig ar waith i gyflogaeth yn y diwydiant harddwch drwy ddefnyddio cymwysterau sy'n cyfuno sgiliau a gwybodaeth.

Ydych chi'n gweithio ym maes therapi harddwch ar hyn o bryd? Ydych chi am ddatblygu eich gyrfa a'ch sgiliau technegol? Mae’r cwrs prentisiaeth hwn yn eich helpu i symud ymlaen i swyddi harddwch o’r radd flaenaf, gan gynnwys rolau rheoli, gwaith fel arddangoswr, swyddi mewn sba sydd ag enw da, a swyddi ar longau mordaith. Mae hefyd yn un o'r unig gymwysterau derbyniol ar gyfer gweithio dramor, sy'n rhoi hyd yn oed mwy o opsiynau ar gyfer llwyddiant i chi. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sy'n symud ymlaen o gymhwyster Lefel 2 perthnasol, neu o wybodaeth broffesiynol bresennol a chyrsiau achrededig byr y gallech fod wedi'u cwblhau eisoes.

Gallwch weithio mewn lleoliadau amrywiol, gan gynnwys salonau harddwch, sbas a chlybiau iechyd, cyrchfannau gwyliau neu weithio'n llawrydd.

Gofynion mynediad

  • Dylai fod gennych gymhwyster Therapi Harddwch Lefel 2 neu wybodaeth a phrofiad proffesiynol cyfatebol ⁠ ⁠
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ ⁠neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol. ⁠⁠

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhan fwyaf o'r cwrs yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Sesiynau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau

⁠Nid yw dysgwyr y cyrsiau i therapyddion harddwch a thechnegwyr ewinedd yn dod i'r coleg ar gyfer gweithdai ymarferol a sesiynau theori. ⁠Bydd angen i'r salon ddarparu'r holl hyfforddiant technegol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant yn salon y coleg yn ogystal â dod â chleientiaid i mewn pan fo angen. Bydd Asesydd yn gyfrifol am yr holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Bydd y cymhwyster Lefel 3 yn eich helpu i symud ymlaen i'r cyfeiriad cywir tuag at yrfa heriol. Byddwch yn gallu ymgeisio am gyfrifoldebau ychwanegol yn eich gweithle, ac efallai y byddwch yn gallu gweithio mewn rôl oruchwylio neu reoli. Bydd gennych amrywiaeth o opsiynau ar gyfer gweithio fel therapydd harddwch, mewn gweithleoedd ledled y DU ac mewn gwledydd eraill. Os ydych am symud ymlaen ymhellach mewn addysg, efallai y bydd gennych y dewis o fynd ymlaen i Addysg Uwch naill ai'n llawn amser neu'n rhan-amser. Gallech ymgymryd â chymhwyster Proffesiynol Uwch City and Guilds yng Ngrŵp Llandrillo Menai, a fyddai'n gwella eich sgiliau a'ch cyflogadwyedd hyd yn oed ymhellach ac yn rhoi cymhwyster Lefel 4 neu uwch i chi.

  • I raglen brentisiaeth Lefel 4 Therapi Harddwch neu Gymwysterau Addysg Uwch.
  • Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch.
  • Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau perthnasol eraill fel Triniaethau Ewinedd neu Drin Gwallt.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r cwrs ymarferol hwn wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa mewn Therapi Harddwch. Bydd y Diploma NVQ Lefel 3 mewn Tylino Therapi Harddwch yn caniatáu i'r therapydd harddwch iau ddatblygu eu sgiliau ac arbenigo ym mhob un o feysydd tylino.

Gwybodaeth am yr Unedau

Therapi Harddwch (Llwybr Tylino)

Byddai Therapydd Harddwch yn cael ei hyfforddi i gynnal triniaethau fydd yn cynnwys triniaethau tylino'r corff, therapi cerrig, tylino pen Indiaidd, tylino aromatherapi, triniaethau trydanol ar y corff, a gwasanaeth tynnu blew yn defnyddio cwyr. ⁠ Gellir hefyd ychwanegu unedau ychwanegol at y llwybr hwn o'r rhestr isod

I gyflawni'r cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr gwblhau 6 uned orfodol gwerth cyfanswm o 44 credyd ac unedau dewisol hyd at o leiaf 7 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 51 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Monitro gweithdrefnau ar gyfer rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Cyfrannu at gynllunio a rhoi gweithgareddau hyrwyddo ar waith - 5 credyd (2 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau tylino'r corff - 10 credyd (5 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • Darparu tylino Pen Indiaidd - 7 credyd (4 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi'u cymysgu ymlaen llaw - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau therapi cerrig - 10 credyd (6 Cymhwysedd 4 Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Cynllunio a darparu colur brwsh aer - 8 credyd (5 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau trydanol i'r corff - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau trydanol i'r wyneb - 12 credyd (7 Cymhwysedd 5 Gwybodaeth)
  • Darparu triniaethau estyniad blew amrant sengl - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau lliw haul UV - 2 gredyd (1 Cymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau lliw haul ffug - 3 credyd (2 Gymhwysedd 1 Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau cwyro personol i ferched - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)
  • Darparu gwasanaethau cwyro personol i ddynion - 5 credyd (3 Cymhwysedd 2 Gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Llythrennedd Digidol Lefel 1

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch