Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    78 wythnos (18 mis)


Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Mae'r Diploma NVQ Lefel 3 mewn Gwasanaethau Ewinedd yn darparu dilyniant o'r Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaethau Ewinedd neu Therapi Harddwch a'r cyfle i ddatblygu ac ehangu eich sgiliau o fewn y diwydiant gwasanaethau ewinedd.

Mae’r fframwaith prentisiaeth hwn, y cytunwyd arno’n genedlaethol ar gyfer llwybr dysgu seiliedig ar waith o fewn y diwydiant Gwasanaethau Ewinedd, gan ddefnyddio cymwysterau sy’n cyfuno sgiliau a gwybodaeth i ddatblygu eu sgiliau creadigol a'u sgiliau busnes.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond argymhellir eich bod yn meddu ar gymwysterau Harddwch neu Ewinedd lefel 2
  • Rhaid i brentisiaid fod â chyflogwyr a all fodloni meini prawf yr NVQ ⁠neu gallwn ni eich helpu i ddod o hyd i gyflogwr
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad
Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd y rhan fwyaf o'r cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Arddangosiadau
  • Cyfle i weithio ar gleientiaid yn salon masnachol y coleg

Nid yw dysgwyr cyrsiau gwasanaethau ewinedd yn mynychu'r coleg ar gyfer gweithdai ymarferol nac ar gyfer y theori. ⁠Bydd angen i'r salon ddarparu'r holl hyfforddiant technegol. Bydd cyfleoedd i ymgymryd â hyfforddiant yn salon y coleg yn ogystal â dod â chleientiaid i mewn pan fo angen. Bydd Asesydd yn gyfrifol am yr holl asesiadau a sesiynau theori sy'n digwydd yn y gweithle.

Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

O’r rhaglen brentisiaeth Gwasanaethau Ewinedd Lefel 3 hon gallwch symud ymlaen:

  • I gyflogaeth fel technegydd ewinedd neu swydd arall yn y diwydiant harddwch
  • I addysg uwch megis Gradd Sylfaen mewn Therapi Harddwch a Rheoli Salon neu raglenni eraill.
  • Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch.
  • Mae'n bosibl symud ymlaen i gyrsiau perthnasol eraill fel Therapi Harddwch neu Drin Gwallt.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae'r cwrs ymarferol hwn wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa mewn Gwasanaethau Ewinedd. Mae'r llwybr hwn yn datblygu sgiliau i lefel uwch a chyflogaeth fel Technegydd Ewinedd, gan gyflawni triniaethau fydd yn cynnwys cynnal ewinedd gan ddefnyddio gel UV, adeiladwr gel, hylif, a phowdr. Creu celfyddyd ewinedd salon ynghyd ag opsiynau celfyddyd ewinedd uwch. Mae sgiliau pellach mewn defnyddio ffeiliau trydan hefyd wedi'u cynnwys.

Gwybodaeth am yr Unedau

Gwasanaethau Ewinedd

I gyflawni'r cymhwyster llawn rhaid i ymgeiswyr gwblhau pob un o'r 3 uned orfodol gyda chyfanswm o 24 credyd ac unedau dewisol gydag o leiaf 24 credyd i roi cyfanswm cyffredinol o 48 credyd.

UNEDAU GORFODOL

  • Monitro gweithdrefnau ar gyfer rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel - 4 credyd (1 Cymhwysedd 3 Gwybodaeth)
  • Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio gel UV - 10 credyd (7 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
  • Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio hylif a phowdr - 10 credyd (7 cymhwysedd 3 gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Cyfrannu at effeithiolrwydd ariannol y busnes - 4 credyd (1 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
  • Gwella a chynnal ewinedd gan ddefnyddio lapiadau - 8 credyd (5 cymhwysedd 3 gwybodaeth)
  • Cynllunio a chreu dyluniadau celfyddyd ewinedd - 6 credyd (4 cymhwysedd 2 gwybodaeth)
  • Datblygu amrywiaeth o ddelweddau ewinedd creadigol - 5 credyd (3 chymhwysedd 2 gwybodaeth)
  • Cynllunio a darparu dyluniad brwsh aer ar gyfer ewinedd - 5 credyd (3 cymhwysedd 2 wybodaeth)
  • Paratoi a gorffen troshaenau ewinedd gan ddefnyddio ffeiliau trydan - 4 credyd (3 chymhwysedd 1 gwybodaeth)
  • Cyfrannu at gynllunio a rhoi gweithgareddau hyrwyddo ar waith - 5 credyd (2 cymhwysedd 3 gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Llythrennedd Digidol Lefel 1

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch