Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Bangor, Llandrillo-yn-Rhos
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Tylino Therapi Harddwch Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llandrillo-yn-Rhos

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant sba neu'r maes holistig? Bydd gyrfa o'r fath yn eich herio, yn eich ysbrydoli ac yn rhoi i chi ddewis eang o gyfleoedd gyrfaol.

Ar yr ochr ymarferol, byddwch yn dysgu sut i dylino'r corff, yn dysgu am therapi cerrig, tylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi, tylino yn y dull Indiaidd, a sut i roi lliw haul ffug a thrin clustiau â chanhwyllau Hopi. Mae electrotherapi i'r wyneb hefyd yn opsiwn.

O ran theori, byddwch yn dysgu am anatomeg a ffisioleg yn eu manylder, er mwyn cael sylfaen ar gyfer datblygu'ch sgiliau ymarferol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 2 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:

  • Arddangosiadau
  • Gwaith grŵp
  • Gweithdau theori
  • Sesiynau ymarferol mewn amgylchedd gwaith realistig (RWE)
  • Profiad gwaith

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Arholiadau ar-lein amlddewis

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran addysg a gwaith:

  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Therapi Harddwch (Tylino)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

n/a

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch