Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Llandrillo-yn-Rhos, Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    Rhan-amser: 78 wythnos⁠ (18 mis)

Gwnewch gais
×

Prentisiaeth - Trin Gwallt Lefel 2

Prentisiaethau

Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi’n steilydd, neu a ydych chi'n awyddus i gael gyrfa ym maes trin gwallt? Hoffech chi wella'ch gwybodaeth a'ch sgiliau technegol? Mae'r cwrs prentisiaeth hwn yn eich galluogi i ennill cymhwyster Lefel 2 gwerthfawr a gweithio ar yr un pryd. Mae'r cwrs yn ychwanegu ar eich dealltwriaeth ac mi fydd yn eich cynorthwyo i ragori fel steilydd.

Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt Merched ac mi fyddwch yn derbyn hyfforddiant o'r safon uchaf ar dorri, pyrmio, technegau lliwio, chwythsychu, rhoi gwallt i fyny a gosod gwallt yn ogystal â thriniaethau i wallt/croen y pen. Yn ogystal â hyn byddwch yn dysgu gwybodaeth a sgiliau yn ymwneud â gweithio mewn derbynfa, am iechyd a diogelwch a manwerthu.

Gofynion mynediad

  • Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol ond mae profiad ym maes Gwallt a Harddwch yn ddymunol neu NVQ Lefel 1 wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.
  • Y⁠ ⁠Rhaid bod eich cyflogwr yn gallu trafod meini prawf yr NVQ neu gallwn eich cynorthwyo i ddod o hyd i gyflogwr.
  • Rhaid i chi fod yn frwdfrydig, yn ymroddedig ac yn barod i ddysgu
  • Rhaid i chi fod yn berson gofalgar a digynnwrf ⁠ ⁠ ⁠ ⁠
  • Bydd yn ofynnol i chi ddod i gyfweliad

Mae pob lle'n amodol ar gyfweliad boddhaol.

Cyflwyniad

Bydd y rhan fwyaf o'r cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle. ⁠ ⁠ ⁠ Fodd bynnag, bydd Dysgwyr Seiliedig ar Waith yn elwa ar gyfuniad o:

  • Wersi theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Salonau go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grŵp

Nid yw'n hanfodol bod dysgwyr yn mynychu sesiynau yn y coleg i gwblhau tasgau a phrofion theori. Mae'n bosibl cwblhau'r cymhwyster wrth ddysgu o bell. Os oes angen, bydd rhaid i chi fynychu sesiynau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol ar safle coleg sy'n gyfleus i chi.

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Cwblhau Portffolio Electronig o asesiadau ymarferol ar gyfer aseiniadau a thasgau pob uned ⁠
  • Profion amlddewis ar y wybodaeth greiddiol (Arholiadau Ar-lein) Tasgau a phrofion seiliedig ar theori
  • Arsylwadau ac Asesiadau Seiliedig ar Waith
  • Bydd eich ymddygiad yn cael ei asesu hefyd, o ran aeddfedrwydd, datblygiad, rhyngweithio a chyfathrebu

Dilyniant

Mae'r cwrs yn rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ac yn codi eich sgiliau trin gwallt i lefel uwch. Bydd modd i chi ragori yn y maes a datblygu o swydd ar lefel is, i rôl steilydd llawn.

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch. Gallech barhau i astudio'n rhan-amser a symud ymlaen i'r cwrs prentisiaeth NVQ Lefel 3 mewn Trin Gwallt ⁠sydd hefyd yn cael ei gynnig yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Bydd dilyniant yn seiliedig ar fodloni gofynion cwsmeriaid ar gyfer y lefel uwch. Mae'n bosibl symud ymlaen i Lwybrau Dilyniant ym maes Barbro a Therapi Harddwch.

Gwybodaeth campws Dysgu Seiliedig ar Waith

Wedi'i anelu at y rhai a hoffai ddilyn gyrfa yn y diwydiant Trin Gwallt cyffroes.

Cwrs ymarferol yw hwn a fydd yn eich galluogi i ddod yn steilydd. Byddwch yn astudio pob agwedd ar steilio gwallt Merched a Dynion gan gynnwys torri, pyrmio, lliwio, gosod, chwythsychu, trin gwallt hir, triniaethau i wallt/croen y pen, ymgynghori â chleientiaid, dyletswyddau derbynfa, ac iechyd a diogelwch. Bydd y cwrs yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes Trin Gwallt.

Gwybodaeth am yr Unedau

I gyflawni'r cymhwyster hwn rhaid i ymgeiswyr gwblhau 7 uned orfodol gwerth cyfanswm o 55 credyd ac unedau dewisol hyd at o leiaf 9 credyd er mwyn rhoi cyfanswm cyffredinol o 64 credyd

UNEDAU GORFODOL

  • Steilio a gorffen gwallt 6 Credyd (3 credyd Gwybodaeth a 3 credyd Cymhwysedd)
  • Setio a thrin gwallt 7 Credyd (4 credyd Gwybodaeth a 3 credyd Cymhwysedd)
  • Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (5 credyd Gwybodaeth a 7 credyd Cymhwysedd)
  • Lliwio a goleuo gwallt 14 Credyd (9 credyd Gwybodaeth a 5 credyd Cymhwysedd)
  • Cynghori cleientiaid ac ymgynghori â chleientiaid - 8 credyd (3 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Shampwio, cyflyru a thrin y gwallt a chroen y pen 5 Credyd (2 credyd Gwybodaeth 3 credyd Cymhwysedd)
  • Datblygu a chynnal effeithlonrwydd wrth eich gwaith 3 chredyd (2 gredyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)

UNEDAU DEWISOL

  • Ymlacio gwallt - 9 credyd (4 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Pyrmio a niwtraleiddio gwallt - 10 credyd (5 credyd Cymhwysedd a 5 credyd Gwybodaeth)
  • Plethu a throelli gwallt - 5 credyd (3 credyd Cymhwysedd a 2 credyd Gwybodaeth)
  • Ychwanegu gwallt dros dro i wella steil - 3 chredyd (2 credyd Cymhwysedd ac 1 credyd Gwybodaeth)
  • Tynnu ychwanegiadau gwallt 5 Credyd (2 credyd Gwybodaeth 3 credyd Cymhwysedd)
  • Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 credyd Gwybodaeth)
  • Torri gwallt dynion gan ddefnyddio technegau sylfaenol 12 Credyd (5 credyd Gwybodaeth 7 credyd Cymhwysedd)
  • Torri steil gwallt dynion - 6 chredyd (4 credyd Cymhwysedd a 2 gredyd Gwybodaeth)

Unedau Sgiliau Hanfodol ychwanegol: (Os ydych eisoes wedi ennill cymhwyster cyfwerth, mae'n rhaid cael prawf o hynny)

  • Cyfathrebu Lefel 1
  • Cymhwyso Rhif Lefel 1
  • Llythrennedd Digidol Lefel 1

Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth (ERR)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Prentisiaethau

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dwyieithog:

Darpariaeth ddwyieithog ar gael

Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Trin Gwallt a Therapi Harddwch