LEOEDD OLAF AR GAEL
Mae tri choleg Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Llandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor - wedi cyhoeddi fod ganddyn nhw ychydig o leoedd munud olaf ar gael ar gyfer cyrsiau'n dechrau ym mis Medi... ond brysiwch, mae'r cyrsiau'n prysur lenwi!
Mae'r Grŵp yn cynnig cannoedd o gyrsiau - yn gymwysterau BTEC, cymwysterau Lefel A, prentisiaethau a chyrsiau gradd, rhywbeth at ddant pawb ac i'ch helpu i gyrraedd eich potensial.
Mae'n anodd i ddisgyblion sydd ym Mlwyddyn 11 ar hyn o bryd benderfynu beth i'w wneud ar ôl sefyll eu harholiadau TGAU a bydd llawer yn mynd am y dewis hawsaf, sef aros yn yr ysgol.
Ond, beth os ydych yn amau eich penderfyniad i fynd i'r chweched dosbarth? Ydych chi'n meddwl y dylech fod wedi dewis pynciau gwahanol? Neu wedi dewis cwrs mwy 'ymarferol' er mwyn dysgu crefft neu sgil galwedigaethol?
I'ch helpu i bwyso a mesur pethau, rydym wedi rhestru ychydig o fanteision astudio yn y coleg:
- Mwy o ddewis - gall y coleg gynnig dewis eang o gyrsiau, academaidd a galwedigaethol, mewn mwy na 35 maes pwnc. O ran pynciau Lefel A/AS yn unig, gallwch ddewis o blith bron i 40 pwnc gwahanol;
- Mwy o sgiliau - yn y coleg, cewch gyfleoedd i fynd ar brofiad gwaith a chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol;
- Mwy o gymorth a chefnogaeth - mae'n hawdd troi at Diwtoriaid Personol, y Tîm Cymorth Dysgu ac Anogwyr Dysgu.
- Mwy o annibyniaeth - cewch eich trin fel oedolyn yn y coleg, a bydd y sgiliau a ddysgwch, fel sgiliau cyfathrebu, sgiliau rheoli amser, sgiliau gwaith tîm, sgiliau cymdeithasol a phrofiad gwaith, yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy a pharod i ymgodymu â byd gwaith neu addysg uwch;
- Mwy o gyfleoedd cymdeithasol - mae mwy na 20,000 o fyfyrwyr yn astudio ar ein campysau, felly os dewiswch astudio gyda ni, mae siawns dda y byddwch yn cyfarfod llawer o bobl wahanol a diddorol - a gwneud ffrindiau am oes!
I gloi, os gwnewch ddewis astudio yn un o'n colegau, byddwch yn gadael gyda chymhwyster cydnabyddedig a fydd yn eich cynorthwyo i gael y swydd neu’r brentisiaeth yr ydych wedi rhoi'ch bryd arni neu i gael lle mewn prifysgol o’ch dewis!
Dydi hi byth rhy hwyr i newid. Gwnewch gais ar ein gwefan heddiw, neu cysylltwch â ni ar: generalenquiries@gllm.ac.uk neu ffoniwch y llinell cyngor ar gyrsiau ar 01492 542 338 yn achos Coleg Llandrillo, 01758 701 385 yn achos Coleg Meirion-Dwyfor, a 01248 383 333 yn achos Coleg Menai.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn fuan iawn!
