Dysgu Oedolion a Chymunedol
Mae rhaglenni dysgu oedolion a chymuned yn cynnwys amrediad eang o weithgareddau dysgu a chyrsiau sydd wedi trawsnewid bywydau miloedd o oedolion.
Rydym yn cynnig cyrsiau dysgu oedolion a chymunedol ar draws gogledd-orllewin Cymru ble gallwch ddysgu sgil newydd a gwneud ffrindiau newydd yr un pryd!
Caiff cyrsiau eu cynnal ar nifer o'n campysau, a hefyd mewn safleoedd anffurfiol yn y gymuned megis llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.
Mae ein prosbectws mis Ionawr newydd allan nawr. Darganfyddwch fwy yma.

Oes gennych chi awydd astudio i feithrin sgiliau newydd, ennill cymwysterau neu ddilyn diddordeb?
Ewch i wefan Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Siroedd Dinbych a Chonwy i gael gwybod rhagor.

A oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu efo cwestiwn?
Mae timau Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg yma i'ch helpu gydag unrhyw gwestiynau. Gallwch anfon neges e-bost, ffonio neu alw heibio un o'n campysau, neu ddod i un o'n digwyddiadau agored.
Beth bynnag yw eich nod, rydym yn sicr o gael cwrs i chi!