Ariannu
Mae gennym wahanol fathau o gyfleoedd cyllido i gefnogi cyflogwyr a gweithwyr i hyfforddi
Twf Swyddi Cymru+
Rydym ni yn un o reolwyr asiant ar gyfer Twf Swyddi Cymru+, rhaglen sydd wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru i greu miloedd o swyddi bob blwyddyn i bobl ifanc trwy Gymru.
ReAct Plws
Rhaglen ariannu yw'r Cynllun Gweithredu ar Ddiswyddiadau Plws (ReAct Plus) ar gyfer hyfforddiant a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n wynebu'r posibilrwydd o golli'u swyddi.
Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP)
Partneriaeth dair ffordd ydy KTP rhwng y cwmni, y tîm academaidd (y colegau) a'r graddedigion (aelod cysylltiol KTP), sy'n eich galluogi chi i gael arbenigedd a sgiliau a fydd yn helpu eich cwmni i ddatblygu medrau newydd a fydd yn arwain at fwy o elw a chystad.
Sgiliau Gwyrdd i Gyflogwyr
Mae'r prosiect yn mynd i'r afael â'r bwlch mewn sgiliau gwyrdd drwy wella sgiliau unigolion a busnesau ym maes datgarboneiddio, arbed ynni, a thechnolegau gwyrdd, gan hyrwyddo'r nod o gyrraedd y targedau sero net cenedlaethol erbyn 2050.
Cyfrifon Dysgu Personol
Gallai hyfforddiant y telir amdano'n llawn trwy Gyfrifon Dysgu Personol Llywodraeth Cymru eich helpu i feithrin y sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. O sgiliau digidol i gymwysterau amgylcheddol, mae'r cyfleoedd yn ddi-ben-draw.
Mae miloedd eisoes wedi elwa ar ein Cyfrifon Dysgu Personol, a llawer wedi cael swyddi newydd a dyrchafiad! Peidiwch â cholli cyfle.
Academi Ddigidol Werdd
Ydych chi'n fusnes micro, bach neu ganolig wedi'i leoli yn siroedd Môn, Gwynedd, Conwy, Dinbych neu'r Fflint Hoffech chi fod yn fwy gwyrdd a lleihau eich ôl troed carbon?
Yna mae'r Academi Ddigidol Werdd yma i'ch helpu chi i wneud y newidiadau sydd eu hangen.