Pam gweithio gyda ni
Yng Ngrŵp Llandrillo Menai, ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yw'r pwynt cyswllt cyntaf i fusnesau ledled Gogledd Cymru.
Cysylltiadau â Chyflogwyr
Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr i:
- Hyrwyddo a chyflwyno hyfforddiant sy'n datblygu sgiliau staff, yn meithrin gwybodaeth ac sy'n sbarduno twf busnes
- Darparu mynediad at gyrsiau a rhaglenni sydd wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion y diwydiant
- Meithrin perthnasoedd cydweithredol hirdymor sy'n cefnogi datblygiad y gweithlu rŵan ac yn y dyfodol
Fel yr adran yn y coleg sy'n dod wyneb yn wyneb a chyflogwyr, ein prif nod yw cysylltu busnesau â'r cyfleoedd hyfforddi cywir, gan helpu cyflogwyr i baratoi eu gweithlu ar gyfer y dyfodol a chyflawni llwyddiant cynaliadwy.

Ymgynghorwyr Datblygu Busnes
Mae ein tîm o bum Ymgynghorydd Datblygu Busnes (gan gynnwys yr Arweinydd Tîm) wedi ymrwymo i weithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr ledled Gogledd Cymru a thu hwnt.
Yr hyn a wnawn
- Ymgysylltu â Chyflogwyr: Rydym yn tynnu sylw at gyfleoedd hyfforddi ac yn ymateb i anghenion cyflogwyr, gan gefnogi datblygiad staff a thwf busnes.
- Canllawiau Cyllido: Mae ein cynghorwyr yn darparu gwybodaeth gyfredol am gymorth ariannol, gan gynnwys cyfleoedd drwy Brosiectau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Arbenigedd Sector: Mae pob Ymgynghorydd Datblygu Busnes yn arbenigo mewn sectorau economaidd allweddol fel adeiladu, peirianneg, gofal plant, lletygarwch, iechyd a gofal, gweithgynhyrchu a thwristiaeth.
- Y Rhanbarth: Wedi'i leoli'n bennaf yn siroedd Conwy, Dinbych, Ynys Môn, a Gwynedd, mae'r tîm hefyd yn cefnogi cyflogwyr yn Sir y Fflint a Wrecsam lle mae galw.
- Ymgysylltu Hyblyg: Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gysylltu â busnesau, o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a galwadau ffôn, i gyfryngau cymdeithasol, digwyddiadau rhwydweithio a fforymau diwydiant.
Pam gweithio gyda ni
Mae gan ein Hymgynghorwyr Datblygu Busnes flynyddoedd lawer o brofiad o weithio gyda sefydliadau o bob maint, o fasnachwyr unigol i gwmnïau cenedlaethol mawr. Maent yn frwd dros gefnogi busnesau i fuddsoddi yn eu pobl, gan eu helpu i gyflawni mwy o lwyddiant a chynaliadwyedd.

Swyddogion Lleoliadau Gwaith – Cefnogi Prentisiaethau Bob Cam o’r Ffordd
Mae ein Swyddogion Lleoliadau Gwaith ymroddedig yn chwarae rhan hanfodol ym mhob cam o'r daith prentisiaeth. O'r sgwrs gyntaf un gyda chyflogwyr a dysgwyr hyd at y diwedd, rydym yn darparu arweiniad a chefnogaeth arbenigol drwy gydol y broses gyfan.
Dod o Hyd i'r Ymgeisydd Cywir
Cyn i chi gyflogi prentis, gall ein tîm eich helpu i adnabod yr un sy'n gweddu orau i'ch busnes. Rydym yn cefnogi gyda hysbysebu swyddi gwag, llunio rhestr fer o ymgeiswyr, a hyrwyddo cyfleoedd drwy ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol i ddenu ymgeiswyr o ansawdd uchel.
Cofrestru a Threfn y Rhaglen
Unwaith y bydd yr ymgeisydd cywir wedi'i ddewis, rydym yn rheoli'r broses gofrestru ac yn sicrhau eu bod wedi'u cofrestru ar eu rhaglen brentisiaeth, gan gynnwys yr holl gymwysterau sy'n ofynnol ar gyfer y fframwaith o'u dewis.
Monitro Cynnydd a Chymorth Parhaus
Mae ein cyfranogiad yn parhau ymhell y tu hwnt i gofrestru. Rydym yn cynnal cyfathrebu cryf rhwng cyflogwyr, prentisiaid, a thiwtoriaid/aseswyr coleg, gan weithredu fel pwynt cyswllt canolog. Rydym yn monitro cynnydd yn rheolaidd i sicrhau bod prentisiaid yn datblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer llwyddiant.
Helpu Busnesau i Dyfu
Drwy weithio gyda'n tîm o Swyddogion Lleoliadau Gwaith, gall eich busnes elwa o brentisiaid brwdfrydig sy'n ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer y gweithle, wrth gael eu cefnogi gan ein tiwtoriaid a'n haseswyr profiadol. Gyda'n gilydd, rydym yn helpu eich sefydliad i dyfu wrth lunio gweithlu'r dyfodol.
