Cyrsiau Byr
Rydym yn cynnig dewis helaeth o gyrsiau busnes a chyrsiau arbenigol byr, nad ydynt fel arfer yn para mwy na 5 diwrnod.
Cyrsiau byr
Cynhelir ein cyrsiau byr fel arfer dros gyfnod o ddiwrnod neu hyd at 5 diwrnod ac maen nhw'n cynnwys hyfforddiant perthnasol i'r diwydiant a chyrsiau datblygiad proffesiynol.
Cyrsiau Micro-ddysgu
Darganfyddwch ffordd newydd o ddysgu gyda'n sesiynau hyfforddi micro-ddysgu - sesiynau effeithiol a gynlluniwyd ar gyfer busnesau a gweithwyr proffesiynol prysur ledled gogledd Cymru a'r gogledd orllewin. Mae ein cyrsiau micro-ddysgu newydd yn cynnig ffordd hyblyg a chyflym i gyflawni canlyniadau go iawn, gyda chynnwys ymarferol sydd â ffocws pendant. P'un a ydych chi'n awyddus i fireinio'ch sgiliau cyfathrebu, rhoi hwb i'ch hyder, cryfhau eich sgiliau arwain, gwella perfformiad, datblygu diwylliannau cadarnhaol neu wella effeithlonrwydd, mae'r sesiynau deinamig hyn yn ffitio'n hawdd i'ch diwrnod a'ch nodau datblygu.
Gyda'n prosbectws ar-lein gallwch chwilio am amrywiaeth eang o gyrsiau i fusnesau ac archebu lle arnynt.
