Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

ADTRAC

Ewch i dudalen Facebook Grwp Llandrillo Menai i glywed rhagor am lwyddiannau'r prosiect.

Ysgogi pobl ifanc 16-24 oed sy'n ddi-waith yng Ngogledd Cymru i symud ymlaen

Yn ystod 2017-2021 gwnaeth timau ADTRAC yn gweithio'n lleol ar draws Gogledd Cymru ddarparu pob math o gefnogaeth cyflogadwyedd a llesiant personol i helpu pobl ifanc i symud ymlaen i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth.

Roedd cefnogaeth ADTRAC yn cynnwys:

  • Gwasanaeth mentora wedi'i deilwra gan y tîm ADTRAC i ddatblygu cynlluniau gweithredu personol;
  • Cefnogaeth i fagu hyder a goresgyn rhwystrau a oedd yn atal cynnydd;
  • Cefnogaeth ym maes lles (yn cynnwys cyfle i ddefnyddio darpariaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i rai sydd ag anghenion iechyd meddwl bychan/cymedrol);
  • Cymwysterau a hyfforddiant;
  • Syniadau ac awgrymiadau sut i wreiddio'r Pum Ffordd at Les yn eu harferion dyddiol i feithrin gwydnwch emosiynol;

Lawrlwythwch Lyfryn ADTRAC yma a'r llyfryn cymorth lles yma.

Llwyddiannau'r Prosiect

Mae'r ffeithlun (sydd i'w weld yn is i lawr y dudalen) yn dangos llwyddiannau'r prosiect a sut y cefnogodd bobl ifanc. Yn ogystal, gallwch ddarllen yr astudiaethau achos ar waelod y dudalen i weld sut mae ADTRAC wedi gwella bywydau rhai o'r bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect.

Pwy sy'n rhan o'r prosiect?

Arweiniwyd y prosiect gan Grŵp Llandrillo Menai, gan weithio mewn partneriaeth â:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Ariennir y rhaglen yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sara Williams, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol ADTRAC sara.williams@gllm.ac.uk

Cyfle i wylio a gwrando

Cawsom gyfle i sgwrsio gyda rhai o'r bobl ifanc sydd wedi cael eu cefnogi gan Brosiect ADTRAC a'r staff wnaeth eu helpu yn ystod 2021. Cymrwch amser i wylio'r gyfres fideos a chanfod rhagor am y math o gefnogaeth a gynigiwyd gan ADTRAC, a'i effeithiau.

Cadwyd at yr holl reolau COVID priodol yn ystod ffilmio'r fideos hyn.

Mae ffeithluniau'r prosiect yn crynhoi'r hyn a gyflawnwyd:

Gwerthuso Adtrac:

Nawr mae'r gwerthusiad interim a'r gwerthusiad terfynol ar gael.