Technoleg Cerbydau Modur

Yn ein canolfannau, ceir yr offer diweddaraf sy’n cynnwys cyfleusterau i gynnal asesiadau ar roleri ac asesiadau diagnostig, cyfleusterau weldio a ffabrigo, bwth chwistrellu USI, technoleg hybrid a systemau rheoli tymheredd mewn cerbydau.

Cynigir amrywiaeth o gyrsiau’n ogystal â rhaglenni hyfforddi pwrpasol i’r diwydiant moduro. Gall myfyrwyr hefyd feistroli sgiliau ail-orffennu awyrennau.

Rydym yn cynnig cyrsiau llawn amser yn y meysydd a ganlyn:

  • Ffabrigo a Weldio
  • Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Trwm
  • Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
  • Trwsio Cyrff Cerbydau
  • Ail-orffennu Cerbydau (Modur ac Awyrennau)

Pa lefel a chwrs sy'n addas i mi?

Cynigwn y dewis mwyaf o gyrsiau addysg bellach ac addysg uwch yng Ngogledd Cymru ac maent yn amrywio o gyrsiau Lefel 1 hyd at gyrsiau Lefel 3. Rydym hefyd yn cynnig Prentisiaethau.

Dyma ganllawiau syml sy'n esbonio'r lefelau, cyrsiau a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi.


Gyrfa mewn Technoleg Cerbydau Modur


Noder os gwelwch yn dda: Mae'r data/wybodaeth a welir yma yn cael ei ddarparu gan EMSI Career Coach, ac ond ar gael yn Saesneg. Nid yw Grŵp Llandrillo Menai yn gyfrifol am gynnwys gwefannau a darparwyr allanol.