Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Trwsio Cyrff Cerbydau Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa yn y sector cerbydau modur a thrafnidiaeth?

Mae'r cwrs yn adeiladu ar eich gwybodaeth dechnegol ac academaidd. Mae'n datblygu eich galluoedd fel eu bod yn cyrraedd lefel y diwydiant ac yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.

Ar lefel 2 gallech arbenigo yn ddau o'r llwybrau a ganlyn:

  • Egwyddorion Paentio Cerbydau wedi Damwain – Awyrennol a Cherbydau Modur, neu
  • Egwyddorion Trwsio Cyrff Cerbydau wedi Damwain, neu

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Peirianneg Cerbydau Modur Lefel 1 (neu gymwysterau cyffelyb). Mae'r cwrs hefyd yn addas i'r rhai sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr yn y diwydiant cerbydau a phobl broffesiynol o ddiwydiannau eraill.

Mae Cyngor Sgiliau'r Sector (SSC) wedi cymeradwyo'r cymhwyster gan sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y diwydiant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein
  • Ymweliadau â sioeau diwydiant a masnach
  • Lleoliad gwaith yn y diwydiant

Yn y Ganolfan Dechnoleg Moduron ar Gampws y Rhyl, ceir offer a chyfl eusterau sy'n cydymffurfi o â safonau cyfoes y diwydiant. Maent yn cynnwys Profwr Breciau Cerbydau Nwyddau Trwm, Dynamomedr Gyriant 4-Olwyn, Aliniwr 4-Olwyn, Ystafell Ddiagnosteg Awtoelectronig, Bythau Chwistrellu USI, Cynllun Cymysgu Lechler, System Dal ac Alinio Car-O-Liner, Llecynnau Weldio, Llecyn Glanhau Cerbydau, yn ogystal â System Technoleg Hybrid a System Rheoli Hinsawdd mewn Cerbydau.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol mewnol
  • Asesiad ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasg byr i ddysgwr i'w llenwi'n annibynnol

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant cerbydau.

O ganlyniad i ddatblygiadau technegol mae cwmnïau ym maes cynhyrchu, manwerthu, dosbarthu, gwasanaethau a thrwsio wedi damwain wastad yn chwilio am bobl ifanc i'w cyflwyno i'r diwydiant hwn sy'n newid o hyd.

Hefyd, bydd y cwrs yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch.

Gallwch hefyd ymgeisio am Brentisiaet:

  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Trwsio a Phaentio Cyrff Cerbydau
  • Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Trwsio a Phaentio Cyrff Cerbydau (Ail-orffennu)

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Yn y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur yn y Rhyl ceir yr offer diweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, yn cynnwys Gweithdy MOT a Thechnolegau Trydan/Hybrid, Systemau Rheoli Tymheredd mewn Cerbydau, offer ADAS, Safle Alinio Pedair Olwyn, Bythau Chwistrellu USI, Cyfleusterau Cymysgu Paent Lechler, Jig Corff a System Alinio Car-O-Liner, Baeau Weldio a Bae Glanhau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

n/a

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur