Ailorffennu Cerbydau (Paentio) Cerbydau Modur ac Awyrennau Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Math o gwrs:
    Llawn Amser (Addysg Bellach)
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Lefel:
    2
  • Maes Rhaglenni:
    Technoleg Cerbydau Modur
  • Hyd:

    1 flwyddyn

  • Dwyieithog:
    n/a

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu lyfr Chrome y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa yn y sector cerbydau modur a thrafnidiaeth? A fyddech yn hoffi i ennill profiad mewn ailorffennu awyrennol/modurol ? Mae'r cwrs hwn yn gwella eich gwybodaeth dechnegol ac academaidd o dechnolegau trwsio a phaentio. Mae'n dod a'ch galluoedd hyd at lefel y diwydiant ac yn eich paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y diwydiant.

Mae'r cwrs yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs Trwsio Cyrff Cerbydau Lefel 1 (neu gymwysterau cyffelyb). Mae'r cwrs hefyd yn addas i'r rhai sy'n gadael yr ysgol, gweithwyr yn y diwydiant cerbydau a phobl broffesiynol o ddiwydiannau eraill.

Mae Cyngor Sgiliau'r Sector (SSC) wedi cymeradwyo'r cymhwyster gan sicrhau ei fod yn bodloni gofynion y diwydiant.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 3 TGAU gradd D neu uwch ac 1 TGAU gradd E, yn cynnwys Mathemateg a Saesneg neu Gymraeg (iaith 1af), neu gymhwyster Mynediad 3 / Lefel 1 Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Rhifedd a Chyfathrebu
  • Gradd Llwyddo mewn cymhwyster Lefel 1 perthnasol
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein
  • Ymweliadau â sioeau diwydiant a masnach
  • Lleoliad gwaith yn y diwydiant

Yn y Ganolfan Dechnoleg Moduron ar Gampws y Rhyl, ceir offer a chyfl eusterau sy'n cydymffurfi o â safonau cyfoes y diwydiant. Maent yn cynnwys Profwr Breciau Cerbydau Nwyddau Trwm, Dynamomedr Gyriant 4-Olwyn, Aliniwr 4-Olwyn, Ystafell Ddiagnosteg Awtoelectronig, Bythau Chwistrellu USI, Cynllun Cymysgu Lechler, System Dal ac Alinio Car-O-Liner, Llecynnau Weldio, Llecyn Glanhau Cerbydau, yn ogystal â System Technoleg Hybrid a System Rheoli Hinsawdd mewn Cerbydau.

Asesiad

  • Asesiad ymarferol mewnol
  • Asesiad ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasg byr i ddysgwr i'w llenwi'n annibynnol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant cerbydau.

O ganlyniad i ddatblygiadau technegol mae cwmnïau ym maes cynhyrchu, manwerthu, dosbarthu, gwasanaethau a thrwsio wedi damwain wastad yn chwilio am bobl ifanc i'w cyflwyno i'r diwydiant hwn sy'n newid o hyd.

Hefyd, bydd y cwrs yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch.

Gallwch hefyd ymgeisio am Brentisiaeth Fodern.

A hoffech chi wneud cais am y cwrs hwn?

Mae'r system gwneud ceisiadau ar gyfer y flwyddyn nesaf ar gau ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r coleg os gwelwch yn dda.