Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    Llawn-amser: 1 flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)

Gwnewch gais
×

Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 1

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Ydych chi'n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant cerbydau modur a thrafnidiaeth?

Yn gyffredinol, mae'r cymhwyster galwedigaethol hwn yn addas i rai sy'n gadael yr ysgol sydd â diddordeb brwd mewn dysgu am gynnal a chadw Cerbydau Ysgafn a'r gwahanol swyddi sydd ar gael yn y diwydiant moduro.

Mae'r cwrs hwn yn darparu cefndir technegol ac academaidd mewn technoleg cerbydau, ac yn canolbwyntio ar ddysgu drwy wneud gwaith ymarferol mewn gweithdai realistig a lleoliad gwaith yn y diwydiant.

Mae'r cwrs wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Sgiliau'r Sector (SSC) gan sicrhau bod y cwrs yn bodloni gofynion ansawdd y diwydiant.

Byddwch yn dilyn y cwrs hwn fel rhan o'r cwrs Crefft Peirianneg Lefel 1 yng Nghampws Llangefni. Gallwch wneud cais i ddilyn cwrs hwn yng Nghampws Llangefni yma.

Gofynion mynediad

3 TGAU gradd E neu uwch, ac un o blith y canlynol:

  • Diddordeb mawr yn y pwnc
  • Wedi cwblhau cwrs Cyswllt Ysgolion Lefel 1 yn llwyddiannus

⁠Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad a fydd yn rhoi cyfle i chi drafod y cwrs a dangos faint o ddiddordeb sydd gennych yn y pwnc.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau realistig
  • Darlithoedd i ddatblygu gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau

Yn y Ganolfan Dechnoleg Moduron ar Gampws y Rhyl, ceir offer a chyfl eusterau sy'n cydymffurfi o â safonau cyfoes y diwydiant. Maent yn cynnwys Profwr Breciau Cerbydau Nwyddau Trwm, Dynamomedr Gyriant 4-Olwyn, Aliniwr 4-Olwyn, Ystafell Ddiagnosteg Awtoelectronig, Bythau Chwistrellu USI, Cynllun Cymysgu Lechler, System Dal ac Alinio Car-O-Liner, Llecynnau Weldio, Llecyn Glanhau Cerbydau, yn ogystal â System Technoleg Hybrid a System Rheoli Hinsawdd mewn Cerbydau.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:

  • Asesiad ymarferol mewnol
  • Asesiad ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasg byr i ddysgwyr i'w llenwi'n annibynnol

Dilyniant

Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant cerbydau neu Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Ysgafn).

O ganlyniad i ddatblygiadau technolegol, mae cwmnïau ym maes cynhyrchu, manwerthu, dosbarthu, gwasanaethau a thrwsio wedi damwain wastad yn ceisio cyflwyno pobl ifanc i'r diwydiant hwn sy'n newid o hyd. Bydd gennych sgiliau mewn nifer o feysydd fydd yn gweddu unrhyw rôl ble mae angen rhoi sylw i fanylion.

Bydd y cwrs hefyd yn eich paratoi i astudio ar lefel uwch.

Gallwch hefyd ddewis gwneud cais am Brentisiaeth Fodern.

Gwybodaeth campws Y Rhyl

Yn y Ganolfan Technoleg Cerbydau Modur yn y Rhyl ceir yr offer diweddaraf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, yn cynnwys Gweithdy MOT a Thechnolegau Trydan/Hybrid, Systemau Rheoli Tymheredd mewn Cerbydau, offer ADAS, Safle Alinio Pedair Olwyn, Bythau Chwistrellu USI, Cyfleusterau Cymysgu Paent Lechler, Jig Corff a System Alinio Car-O-Liner, Baeau Weldio a Bae Glanhau.

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 1

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

n/a

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur