Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flwyddyn

Gwnewch gais
×

Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 2

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os hoffech chi fod yn fecanic neu dechnegydd sy'n gweithio gyda lorïau neu bysiau a'ch bod eisoes wedi cwblhau'r cwrs Lefel 1 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur, yna mae'r cwrs Lefel 2 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (Trwm) yn addas i chi.

Cynlluniwyd y cwrs Lefel 2 hwn i adeiladu ar y sgiliau technegol a'r wybodaeth academaidd a ddysgoch ar y cwrs Lefel 1. Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu'n ymarferol mewn gweithdai. Mae'n codi eich sgiliau i lefel y diwydiant ac yn eich paratoi i fod yn fecanic neu dechnegydd ym maes lorïau.

Yn ogystal â dilyn y cwrs, rydym yn argymell bod dysgwyr yn cael profiad gwaith mewn garej leol. Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn meithrin sgiliau galwedigaethol a mynd ymlaen i Lefel 3.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (neu gymhwyster cyfwerth)
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fe all y broses ymgeisio gynnwys cyfweliad lle cewch gyfle i drafod y cwrs yn fanylach.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd a hyfforddiant dan oruchwyliaeth hyfforddwr i feithrin gwybodaeth greiddiol
  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gwaith realistig
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein ac o bell
  • Ymweliadau â Diwydiannau a Ffeiriau Masnach

Mae'r pum gweithdy ar gampws Llangefni'n cynnwys yr offer safonol diweddaraf a ddefnyddir gan y diwydiant i wneud gwaith diagnosteg a chynnal a chadw ar geir, faniau, loriau a thryciau. Mae'r offer yn cynnwys: Dynamometr dwy olwyn ar roleri, ramp MOT ATL 4 postyn llawn, laser alinio 4 olwyn, y sganwyr a'r sgopau diagnosteg diweddaraf ar gyfer cerbydau ysgafn a thrwm, rig hybrid, labordy awtotroneg a chyfleusterau aerdymheru.

Mae'r holl staff wedi'u hyfforddi yn y diwydiant.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol mewnol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn rhoi i chi'r sgiliau sylfaenol a'r wybodaeth i:

  • fod yn fecanic neu dechnegydd lorïau neu fws
  • gwneud cais am brentisiaeth (Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Trwm))
  • gwneud cais i ddilyn y cwrs Lefel 3 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 2

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

n/a

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur