Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    1 flynedd

Gwnewch gais
×

Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

Os hoffech chi fod yn fecanic neu dechnegydd a'ch bod eisoes wedi cwblhau'r cwrs Lefel 2 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur, yna mae'r cwrs Lefel 3 Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur yn addas i chi.

Cynlluniwyd y cwrs Lefel 3 hwn i adeiladu ar y sgiliau technegol a'r wybodaeth academaidd a ddysgoch ar y cwrs Lefelau 2. Mae'r cwrs yn cyfuno dysgu ymarferol mewn gweithdai â gwersi theori mwy estynedig a gyflwynir mewn dosbarthiadau neu dan oruchwyliaeth hyfforddwr. Mae'n codi eich sgiliau i lefel y diwydiant ac yn eich paratoi i fod yn fecanic neu dechnegydd ym maes cerbydau modur.

Yn ogystal â dilyn y cwrs, rydym yn argymell bod dysgwyr yn cael profiad gwaith mewn garej leol. Mae profiad gwaith yn hanfodol er mwyn meithrin sgiliau galwedigaethol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur (neu gymhwyster cyfwerth)
  • Profiad perthnasol mewn diwydiant

Fe all y broses ymgeisio gynnwys cyfweliad lle cewch gyfle i drafod y cwrs yn fanylach.

Cyflwyniad

Dim ond myfyrwyr sydd wedi cwblhau Diploma Lefel 3 mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau a gaiff astudio at Ddiploma Lefel 3. Mae'r cwrs yn cynnwys pedair uned dechnegol sy'n ymdrin â'r pedwar prif faes sy'n gysylltiedig â cherbydau:

  • Technoleg Siasïau (Uwch)
  • Technoleg Injans (Uwch)
  • Technoleg Trawsyriant (Uwch)
  • Technoleg Drydanol ac Electronig (Uwch)

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Arddangosiadau ymarferol
  • Tasgau gwaith realistig
  • Darlithoedd i feithrin gwybodaeth greiddiol
  • Aseiniadau
  • Dysgu ar-lein
  • Ymweliadau â Diwydiannau a Ffeiriau Masnach
  • Pythefnos o brofiad gwaith
  • Efallai y bydd angen i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Asesiadau ymarferol mewnol
  • Asesiadau ar-lein
  • Cwestiynau llafar
  • Cwestiynau ysgrifenedig
  • Taflenni tasgau byr i ddysgwyr eu cwblhau'n annibynnol

Dilyniant

Bydd cwblhau'r cwrs hwn yn eich paratoi i fod yn fecanig neu dechnegydd. Gan fod hwn yn ddiwydiant sy'n newid yn gyflym, mae cwmnïau ym maes gweithgynhyrchu, gwerthu, dosbarthu, gwasanaethu ac atgyweirio wedi damweiniau bob amser yn chwilio am bobl ifanc i'w recrwitio.

Mae cyfleoedd dilyniant yn cynnwys:

  • bod yn fecanic neu dechnegydd cerbydau modur
  • gwneud cais am brentisiaeth (Prentisiaeth Lefel 3 mewn Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn)
  • ymgeisio am swyddi eraill yn y diwydiant cerbyau modur

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Technoleg Cerbydau Modur

Dwyieithog:

Mae'r rhaglen yma ar gael yn ddwyieithog yn y campws/campysau canlynol:

  • Llangefni
  • Y Rhyl

Technoleg Cerbydau Modur

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Technoleg Cerbydau Modur