Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 1
Manylion Allweddol
-
Ar gael yn:Llangefni
-
Dull astudio:Llawn Amser
-
Hyd:
Llawn-amser: 1 flwyddyn (3 diwrnod yr wythnos)
Cynnal a Chadw Cerbydau Trwm Lefel 1
Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Dewch i gysylltiad am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am y cwrs hwn.
Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.
Disgrifiad o'r Cwrs
Mae'r cwrs galwedigaethol diddorol hwn wedi'i anelu at unigolion sydd â diddordeb brwd mewn dysgu am gynnal a chadw cerbydau a datblygu'r sgiliau perthnasol.
Mae'r cwrs hwn yn ymarferol. Byddwch yn cyflawni tasgau mewn gweithdai safonol y diwydiant i ddatblygu ystod eang o sgiliau cynnal a chadw cerbydau a sgiliau cysylltiedig gan gynnwys; sgiliau llaw sylfaenol, technegau cynnal a chadw, cynhyrchu a weldio.
Gofynion mynediad
- Graddau TGAU G neu uwch neu gwblhau rhaglen Lefel 1 Cyswllt Ysgol yn llwyddiannus
- NEU, diddordeb cryf, uchelgais a chyfweliad llwyddiannus gyda chofnod presenoldeb boddhaol o hyfforddiant/ysgol flaenorol.
Cyflwyniad
Cyflwynir y rhaglen drwy gymysgedd o'r canlynol:
- Arddangosiadau ymarferol
- Tasgau gweithdy realistig
- Gweithgareddau ystafell ddosbarth
Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:
- Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
- Ailsefyll TGAU
Sgiliau Hanfodol
Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.
Ailsefyll TGAU
Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.
Mathemateg a Chymraeg/Saesneg
Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.
Asesiad
Asesir y rhaglen drwy gyfuniad o'r dulliau canlynol:
- Asesiad ymarferol mewnol
- Asesiad ar-lein
- Cwestiynau llafar
- Cwestiynau ysgrifenedig
- Taflenni tasg byr i ddysgwyr i'w llenwi'n annibynnol
Dilyniant
Os gwnewch gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych y wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i weithio yn y diwydiant cerbydau neu Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau (Trwm).
Mwy o wybodaeth
Math o gwrs: Disgyblion sy'n Gadael yr Ysgol
Lefel:
1
Maes rhaglen:
- Technoleg Cerbydau Modur
Technoleg Cerbydau Modur
Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:
